16.6 C
Llanelli
Thursday, September 10, 2026
Home Events Dwyn cymunedau anghysbell at ei gilydd trwy chwedleua ar draws Sir Benfro.

Dwyn cymunedau anghysbell at ei gilydd trwy chwedleua ar draws Sir Benfro.

0
1837
Care Share Connect with Hedydd Hughes 3
Care Share Connect with Hedydd Hughes 3

Mae Pembrokeshire Storytelling / Straeon Sir Benfro a People Speak Up wedi bod yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau ar draws Sir Benfro yn 2025, gan ddwyn pobl a chymunedau at ei gilydd.

Mae’r chwedleuwyr Hedydd Hughes a Deb Winter wedi bod yn rhannu eu chwedlau gyda’r rhai sy’n methu codi mas. Mae Hedydd wedi difyrru’r rhai mewn cartrefi gofal preswyl ac mae Deb wedi mynd â storïau i gartrefi pobl.

Dywedodd y chwedleuwr Deb Winter, “Mae mynd â’r celfyddydau at y rhai sy’n methu mynd mas yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’r gymuned. Mae’n gwirioneddol godi hwyliau pobl gwrando ar storïau a rhannu eu storïau eu hunain.”

Gyda chefnogaeth Gwella Sir Penfro – Cyngor Sir Penfro, mae’r prosiect 12 mis, ‘Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro,’ yn defnyddio chwedleua llafar i gysylltu preswylwyr Sir Benfro a chyflwyno digwyddiadau chwedleua cymunedol cyfeillgar, cynhwysol, gweithdai dysgu gweithredol a chwedleua un i un i’r rhai unig/sy’n methu teithio. Cychwynnodd y prosiect ym Medi 2024.

Mae’r chwedleuwyr Hedydd Hughes, Phil Okwedy a Judy Schunemann hefyd wedi bod yn gweithio mewn lleoliadau preswyl a chartrefi pobl ers hynny. 

Mae Fishguard Storytelling/Straeon Sir Benfro a People Speak Up wedi gweithio mewn partneriaeth o’r blaen i gyflawni prosiectau cymunedol yng ngogledd a de Sir Benfro, fel prosiect Celfyddydau Gwirfoddol Cymru (Bywydau Creadigol nawr) ‘Stori Gofal a Rhannu’, yn dosbarthu Straeon at y Drws a dros y ffôn i bobl hŷn unig, a chartrefi pobl, gan gynnwys y rhai yng nghyfnod cynnar dementia.

Mae’r ddau sefydliad am i Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol roi cyfleoedd i bobl o bob oed, gallu a chefndir i fwynhau’r manteision iechyd meddwl a llesiant y mae rhannu straeon llafar yn ei gynnig.

“Rydym yn gwybod yn bersonol, o brosiectau blaenorol, yr effaith bwysig y gall y celfyddydau a chreadigrwydd ei gael ar iechyd a llesiant ein cymunedau hŷn, yn arbennig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.  Rydym yn gobeithio, trwy’r prosiect hwn, y gall grym chwedleua ddwyn mwy o gymunedau at ei gilydd, gan helpu gydag iechyd, llesiant ac unigrwydd.” Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU.

Arweinir Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro gan y chwedleuwraig broffesiynol leol o Sir Benfro, Deb Winter, gan adeiladu ar ei gwaith llwyddiannus yn datblygu gweithgareddau chwedleua ac yn gwahodd artistiaid a chydweithwyr eraill i gymryd rhan.

Yn ogystal â chyflwyno storïau i bobl unig, roedd Deb Winter hefyd yn rhedeg gweithdy Sgiliau Chwedleua i ddechreuwyr, Rhannu Stori cymunedol a phum digwyddiad Stori a Cherddoriaeth. Y digwyddiad nesaf fydd ‘The Restless River’ ar ddydd Mercher 9 Gorffennaf am 7pm yn Peppers Cafe lle bydd chwedleuwyr yn dathlu glaw ac afonydd! 

Er mwyn gweld y digwyddiadau diweddaraf a’r gweithgareddau ewch i peoplespeakup.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.