22 C
Llanelli
Friday, August 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Plaid Cymru yw’r unig lywodraeth gredadwy o blaid Cymru yn etholiadau’r Senedd...

Plaid Cymru yw’r unig lywodraeth gredadwy o blaid Cymru yn etholiadau’r Senedd 2026

0
1580
Rhun ap Iorwerth MS
Rhun ap Iorwerth MS

Mae Etholiad Senedd 2026 yn cynnig “cyfle euraidd i ethol llywodraeth o blaid Cymru” meddai arweinydd Plaid Cymru.

Gan nodi blwyddyn i fynd cyn i bobl Cymru fynd i bleidleisio, gwahoddodd Rhun ap Iorwerth bawb sy’n “credu yng Nghymru a’i phosibiliadau” i bleidleisio dros Blaid Cymru fel yr unig ”lywodraeth gredadwy o blaid Cymru” yn 2026.

Wrth siarad mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd i nodi 12 mis tan Etholiad Cyffredinol Cymru, bydd Rhun ap Iorwerth AS yn dweud:

“Mae Cymru dybryd angen am ddechrau newydd a syniadau newydd ar ôl 25 mlynedd o Lafur yn y grym.

“Rwy’n gwahodd pawb sy’n credu yng Nghymru a’i phosibiliadau i fanteisio ar y cyfle euraidd a phleidleisio dros Blaid Cymru y flwyddyn nesaf fel yr unig lywodraeth gredadwy o blaid Cymru.

“Dro ar ôl tro dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan a’i llywodraeth Lafur wedi rhoi eu plaid o flaen gwlad. Maent wedi methu â sefyll yn erbyn Keir Starmer ac wedi rhoi’r gorau i fynnu tegwch i Gymru.

“Mewn cyferbyniad llwyr, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynnu bargen well i Gymru ar bob tro fel y gallwn roi’r gwasanaethau cyhoeddus yr ydych yn eu haeddu i chi.

“Iechyd, cyfoeth a Chymru fydd ffocws fy llywodraeth i – un a fydd yn blaenoriaethu rhoi’r gofal sydd ei angen ar bobl lle a phryd bynnag y mae ei angen arnynt, ac yn mynd i’r afael â’r heriau parhaus o ran costau byw sy’n effeithio ar gynifer.

“Dim ond yr un canlyniadau y bydd ethol Prif Weinidog Llafur arall yn eu cyflawni – economi sy’n simsanu, cynghorau dan straen ac argyfwng yn y gwasanaeth iechyd. Felly ar y 7fed o Fai y flwyddyn nesaf, rwy’n annog pawb sydd eisiau gweld newid go iawn, sydd eisiau llywodraeth nad yw’n ofni sefyll yn erbyn San Steffan, ac sy’n credu nad yw hyn mor dda ag y mae’n ei gael i Gymru i bleidleisio dros Blaid Cymru.

“Mae’r dewis yn glir, pedair blynedd arall o Lafur yn blaenoriaethu buddiannau Llafur, neu Lywodraeth Plaid Cymru yn ddi-baid wrth ddilyn yr hyn sy’n iawn i Gymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleDoggy Daycare Plans
Next articlePlaid Cymru the only credible pro-Wales government on offer in 2026.
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.