Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu murlun ar gyfer waliau gardd Ward Sant Caradog yn Ysbyty Llwynhelyg.

Crëwyd y murluniau gan Lloyd the Graffiti, artist o Sir Benfro sydd wedi bod yn peintio ers 1998 ac sydd wedi dod yn enwog am grynhoi hanes a harddwch naturiol Sir Benfro yn ei waith. Gan ddefnyddio paent chwistrell, mae’n creu cyfres unigryw o baentiadau ac mae wedi gweithio’n agos gydag ysgolion lleol a sefydliadau ieuenctid ledled y sir.

“Mae’r murluniau wedi trawsnewid ein gardd yn llwyr. Gall lliw gael effaith mor bwerus ar ein hwyliau, ein teimladau a’n hymddygiad, mae astudiaethau cymdeithasol wedi dangos bod lliwiau sy’n cael eu creu yn yr amgylchedd cywir yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddwl.
“Gall y gwaith celf bellach fod o fudd i’n gwasanaeth mewn sawl ffordd: tynnu sylw pan fydd claf yn cael ei lethu gan bryder, pwynt siarad wrth ddelio ag emosiynau ac iselder, ac amgylchedd heddychlon ar gyfer gwaith grŵp a chymdeithasu.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |

















