7.9 C
Llanelli
Wednesday, November 11, 2026
Home News Pleidlais i’w chynnal yn y Senedd ar wariant ychwanegol Llywodraeth Cymru

Pleidlais i’w chynnal yn y Senedd ar wariant ychwanegol Llywodraeth Cymru

0
462
pexels enginakyurt 15483706

Ymhlith y buddsoddiadau sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru mae:

  • £145m ychwanegol i helpu cleifion i gael eu gweld yn gyflymach gan y GIG
  • £55m i helpu cannoedd yn rhagor o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant a ariennir i’w plant dwy flwydd oed
  • £15m i sicrhau bod rhagor o ddisgyblion ysgol uwchradd sydd angen prydau ysgol am ddim yn gallu eu cael.
  • £60m ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ailddatgan eu hymrwymiad i’r blaenoriaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru cyn i’r bleidlais ar y Gyllideb Atodol gael ei chynnal yn y Senedd yfory.

Mae’r Gyllideb Atodol, sy’n werth cyfanswm o £354m, yn helpu Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd, ehangu gofal plant, ymestyn prydau ysgol am ddim, a chynyddu cyllid ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dilyn cytundeb â Llafur Cymru.

Ymhlith y buddsoddiadau, mae £145m yn cael ei roi i’r GIG i helpu cleifion i gael eu gweld yn gyflymach, mae £55m yn helpu cannoedd yn fwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant a ariennir i’w plant dwy flwydd oed ac mae £15m yn sicrhau y gall rhagor o ddisgyblion ysgol uwchradd o deuluoedd sydd ar Gredyd Cynhwysol gael prydau ysgol am ddim.

Dywedodd Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

“Mae pobl Cymru wedi dweud wrthym beth sydd bwysicaf, ac mae’r Gyllideb Atodol hon yn cyflawni’r blaenoriaethau hynny.

“Rydym yn buddsoddi’n ofalus fel bod pob punt yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf: amseroedd aros byrrach yn y GIG, mwy o ofal plant i deuluoedd, a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Rydym hefyd yn darparu £60 miliwn pellach ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, fel bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ffynnu.”

Cynhelir dadl a phleidlais ar y Gyllideb Atodol yn y Senedd yfory (dydd Mawrth 3 Tachwedd). Mae’n darparu’r sylfeini ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth 17 Tachwedd ac a fydd yn nodi’r cynlluniau gwario ar gyfer y blynyddoedd i ddod.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.