15.9 C
Llanelli
Friday, October 2, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Cadw golwg ar eich llesiant trwy wasgu botwm

Cadw golwg ar eich llesiant trwy wasgu botwm

0
1080
Spencer Group introduces mental health wellbeing device
Spencer Group introduces mental health wellbeing device

Beth am gadw golwg ar eich llesiant gyda’n ap Cysylltu â Llesiant newydd sy’n cefnogi llesiant unigolion ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Wedi’i ariannu gan Gronfeydd Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r ap Cysylltu â Llesiant y gallwch ei lawrlwytho ac sy’n hawdd i’w ddefnyddio yn offeryn cynllunio llesiant personol y gallwch ei ddefnyddio i‘ch helpu i fesur eich llesiant eich hun.

Yr ap yw un o’r dulliau a ddefnyddir gan ystod o raglenni a ddarperir drwy’r gronfa Drawsnewid ar draws rhanbarth gorllewin Cymru i helpu unigolion a darparwyr i ddeall sut mae eu gwasanaethau’n effeithio ar lesiant unigolyn.

Mae’n caniatáu i chi hunanasesu eich llesiant mewn chwe maes allweddol ac yn rhoi adborth ar sut y gallech wella yn y meysydd hyn. Mae hyn yn cynnwys Teimlo’n iawn, Defnyddio’r hyn sydd gennyf, Cael y cymorth cywir, Bod yn rhan o rywbeth, Gwneud pethau sy’n bwysig i mi a Gofalu amdanaf fy hun.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich asesiad byddwch yn cael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wella eich llesiant a gallwch osod nodau a chynlluniau gweithredu unigol i chi eich hun er mwyn gwella eich llesiant a chyrchu dolenni i amrywiol adnoddau a all eich helpu i gyflawni nodau llesiant.

Gallwch ailadrodd eich asesiad yn rheolaidd i gadw golwg ar eich llesiant dros amser. Gan fod ein llesiant yn newid mewn ymateb i wahanol ddigwyddiadau ac amgylchiadau, bydd ailasesu eich llesiant yn rheolaidd yn eich helpu i ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar eich llesiant a allai ddioddef mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol adegau.

Wrth siarad am yr ap, dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, “Mae’r ap Cysylltu â Llesiant yn offeryn personol i’ch helpu i ddeall, olrhain a gwella eich llesiant cyffredinol. Mae’n cysylltu pobl â’r adnoddau, y ffynonellau gwybodaeth a’r grwpiau cymunedol priodol a all eu helpu i wella eu llesiant a’u helpu i ganolbwyntio ar feysydd penodol y maent yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i gyflawni eu nodau.

“Mae’n helpu unigolion i feithrin arferion gwell a fydd yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaus. Mae’r ap hwn yn offeryn hynod werthfawr a fydd o fudd mawr i unigolion ledled de-orllewin Cymru a byddwn yn annog pobl i archwilio ei botensial o ran gwella eu llesiant cyffredinol ac i olrhain eu taith a’u cynnydd.”

Bydd partneriaid rhanbarthol yn parhau i gydweithio i ddiweddaru’r ap yn rheolaidd trwy gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cymorth sydd ar gael ym mhob ardal.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.