5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Cyfle Gwaith : Swydd Swyddog Trefi Gwledig Ceredigion.

Cyfle Gwaith : Swydd Swyddog Trefi Gwledig Ceredigion.

0
541
newscrest 1
newscrest 1

Swyddog Datblygu Trefi Gwledig

Dyddiad Cau: 30/06/2021 

Cyfeirnod: REQ102931

 37 awr / Cyfnod Penodedig

 24,982 – 27,041 *

 Penmorfa, Aberaeron

*Mae’r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

 Ynglŷn â’r rôl

Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Trefi Gwledig i ymuno â’n Gwasanaeth Adfywio ac Economi ar gytundeb amser llawn am dymor penodol, wedi’i leoli yn ein swyddfa yn Aberaeron.

Mae hon yn swydd newydd, gyffrous yn y gwasanaeth, er mwyn cynorthwyo yn y broses o adfywio trefi gwledig a chymunedau pellennig Ceredigion. Os oes gennych brofiad mewn meysydd fel adfywio, gwaith cymunedol, datblygu economaidd a busnes, gallai hyn fod yn gyfle i chi. Byddwch yn cyfrannu at y broses o ddatblygu dyfodol cymunedau ledled y sir, gan ategu uchelgais y Cyngor o greu trefi sy’n llefydd ffyniannus, sy’n canolbwyntio ar bobl ac yn gydnerth. Disgwylir i chi gael proffil lleol amlwg i ysgogi a meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phobl leol a chefnogi lleoedd sy’n diwallu anghenion a dyheadau’r gymuned.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Cydlynu, hwyluso a rheoli’r modd y darperir gweithgaredd adfywio i gefnogi adferiad ardaloedd gwledig Ceredigion.
  • Hwyluso ymgysylltiad, cyfranogiad a mentora ystod o sefydliadau yn y sectorau cymunedol, cyhoeddus a phreifat i gynorthwyo gyda datblygu eu gweithgareddau.
  • Hwyluso’r broses o ddwyn ymlaen a chyflwyno gweithgareddau LEADER posib (gan weithio ar y cyd â sefydliadau llawr gwlad) i Gr”{p Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GGLl).
  • Trefnu a hwyluso digwyddiadau ymgynghori, rhwydweithio a hyrwyddo.
  • Gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i gael mynediad at gyfleoedd cyllido eraill sy’n briodol i’w hanghenion.

Rydym am recriwtio unigolyn gyda:

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gan gynnwys y gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith adeiladol gydag unigolion a sefydliadau yn y sector cymunedol, cyhoeddus a phreifat.
  • Y gallu i feddwl yn arloesol ac yn strategol.
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfleoedd cydweithredol.
  • Sgiliau mentora ac eiriolaeth da.
  • Sgiliau cyfathrebu / cyflwyno sy’n briodol i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • Brwdfrydedd dros weithgareddau yn y gymuned.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg, arddangos eich menter eich hun a gweithio’n rhagweithiol.

Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Meleri Richards Meleri.richards@ceredigion.gov.uk

Cynhelir cyfweliadau: 8 Gorffennaf 2021.

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

 Yr hyn a gynigwn

 Cydbwysedd bywyd a gwaith

 Cynllun cynilo ffordd o fyw

 Cynllun pensiwn cyflogwr hael

 Cynllun beicio i’r gwaith

 Dysgu a datblygu

 Lle byddwch yn gweithio

 Economi ac Adfywio
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
 Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a’n Cynghorwyr wedi’i leoli.
Darllen mwy
 Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae’n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.