7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Oes diddordeb gyda chi i fod yn aelod o banel ieuenctid ‘Dewis’? 

Oes diddordeb gyda chi i fod yn aelod o banel ieuenctid ‘Dewis’? 

0
386
Taflen Panel Ieuenctid Dewis 2022 cym
Taflen Panel Ieuenctid Dewis 2022 cym

Mae Panel Ieuenctid Dewis, wedi cydlynu gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yn banel o bobl ifanc lleol sy’n gyfrifol am ddewis pa bobl ifanc a phrosiectau ieuenctid yng Ngheredigion sy’n derbyn cymorth ariannol drwy ddyrannu Bwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion a Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae panel ieuenctid ‘Dewis’ wedi cytuno i roi cymorth ariannol i nifer o bobl ifanc a phrosiectau pobl ifanc lleol. Cymorth sydd wedi helpu pobl ifanc cyrraedd eu nod personol a hefyd sicrhau bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol gwerth chweil yn lleol.

Mae’r panel ieuenctid yn chwilio am aelodau newydd i eistedd ar y panel. Petai chi’n berson ifanc sydd rhwng 14 – 16 mlwydd oed ac yn byw yng Ngheredigion, all y cyfle yma fod o ddiddordeb i chi. Eleni mi fydd rhaglen y panel ieuenctid yn cynnwys cyfle i gymryd rhan mewn diwrnod hwyl adeg gwyliau’r Pasg a chyfarfodydd a fydd yn sicrhau bod aelodau yn datblygu sgiliau newydd a chael cyfle i gyfarfod ffrindiau newydd.

Dywedodd Ashlie Day, cyn-aelod o Banel Ieuenctid ‘Dewis’ ac sydd bellach yn Weithiwr Ieuenctid cymwys a sesiynol i’r Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu, “Trwy fod yn aelod o’r panel ieuenctid ‘Dewis’ cefais y cyfle i ddatgan fy marn a hefyd, helpu pobl ifanc eraill. Caniataodd y panel ieuenctid i mi ddweud fy nweud a helpodd fi i fagu hyder datblygu fy sgiliau cyfathrebu. Helpodd y profiad hwn fi i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a hefyd, i ddathlu eu llwyddiannau.”

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae bod yn aelod o banel Ieuenctid ‘Dewis’ yn gyfle arbennig i bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd e.e. i wneud penderfyniadau, siarad yn gyhoeddus a dysgu sut i helpu’r gymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn i Fythynnod Gwyliau Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) bod yna gyfle o’r fath i bobl ifanc allu gwneud penderfyniadau sydd mor bwysig drwy banel ieuenctid ‘Dewis’. Mae’r penderfyniadau yma yn cael effaith mawr ar gyfleoedd sydd yn rhoi cefnogaeth ac yn agored i bobl ifanc eraill sydd yn byw yng Ngheredigion.”

I dderbyn fwy o wybodaeth am sut i fod yn aelod o banel ieuenctid ‘Dewis’, cysylltwch gyda Gwion Bowen, Gwion.Bowen@Ceredigion.Gov.UK

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i dudalennau Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.