9.7 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Animals CYHOEDDI’R GENHEDLAETH NESAF O GYNHYRCHWYR MOCH YN SIOE FRENHINOL CYMRU

CYHOEDDI’R GENHEDLAETH NESAF O GYNHYRCHWYR MOCH YN SIOE FRENHINOL CYMRU

0
370
unnamed 11
unnamed 11

Mae’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru fel rhan o Gystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Yn agored i aelodau CFfI ledled Cymru; nod y fenter yw cyflwyno pobl ifanc i ddiwydiant moch Cymru. Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn deillio o bartneriaeth rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Y chwe enillydd yw Rebecca John o Sir Benfro (CFfI Abergwaun), Carys Jones o Sir Gaerfyrddin (CFfI Llangadog), Rhys Morgan o Abertawe (CFfI Gŵyr), Frances Thomas o Aberhonddu (CFfI Pontsenni), yn ogystal â Leah ac Alis Davies o Sir Ddinbych (CFfI Nantglyn).

Bydd yr enillwyr yn derbyn pum porchell diddwyn i’w magu – gyda phencampwr y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd.

Byddant i gyd hefyd yn derbyn rhaglenni hyfforddi pwrpasol a ddyfeisiwyd gan Menter Moch Cymru i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu, rheoli a datblygu’r fenter newydd hon. Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â phob agwedd ar fagu moch, o hwsmonaeth, deddfwriaeth a maeth, i helpu gyda marchnata eu porc. Bydd pob person ifanc hefyd yn derbyn cymorth mentor parhaus drwy brosiect Menter Moch Cymru.

Dywedodd Rebecca John, ffermwr ifanc o Sir Benfro, “Pan glywais am gystadleuaeth Menter Moch Cymru, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi wneud cais gan ei bod yn swnio fel y man cychwyn delfrydol i mi sefydlu menter dda byw newydd ar y fferm deuluol tra’n cael digon o gefnogaeth ac arweiniad.

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis fel un o enillwyr cystadleuaeth Menter

Moch. Teimlaf yn ffodus iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y profiad unigryw hwn!

Alla i ddim aros i’r sesiynau hyfforddi ddechrau ac i’r moch gyrraedd y fferm.

Rwy’n arbennig o gyffrous i gystadlu gyda’r moch yn y Ffair Aeaf!”

Dywedodd Carys Jones o CFfI Llangadog ei bod yn ddiolchgar iawn ei bod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac yn anrhydeddus i fod ymhlith yr enillwyr.

Dywedodd, “O ganlyniad i hyn, rwy’n gweld y cyfle i fagu nifer fach o foch o ddiddyfnu i ddechrau, i besgi fel cyfle dysgu a fydd yn ehangu fy sylfaen wybodaeth cyn mentro i’r sector ar raddfa fwy.”

Dywedodd Rhys Morgan, ffermwr ifanc o Abertawe, fod ganddo ddiddordeb mewn dysgu am ychwanegu gwerth at ei gynnyrch a’i farchnata gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd wrth astudio’r cyfryngau ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch. Meddai, “Rwy’n falch iawn ac yn freintiedig o fod ymhlith enillwyr y gystadleuaeth hon. Mae gallu cynrychioli Morgannwg, fy sir a Gŵyr, fy Nghlwb Ffermwyr Ifanc lleol, yn anrhydedd mawr.”

Dywedodd Frances Thomas o Aberhonddu, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu marchnad ar gyfer fy nghynnyrch porc a defnyddio’r wybodaeth y byddaf yn ei dysgu o’r gweithdai marchnata ar raglen Menter Moch Cymru.”

Bydd y chwiorydd Leah ac Alis Davies o CFfI Nantglyn yn rhannu’r cyfrifoldebau magu moch ac yn awyddus i ddysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant. Meddai Leah, “Mae’n anrhydedd bod yn un o’r chwe enillydd eleni. Rydym bob amser wedi bod eisiau cymryd rhan yn y cynllun ond erioed wedi teimlo’n ddigon hyderus na phrofiadol i roi cynnig arni, ond gan mai hon oedd blwyddyn olaf y gystadleuaeth eleni roedd yn teimlo fel y flwyddyn berffaith i wneud hynny.

Mae Alis bob amser wedi bod eisiau cadw moch ond nid yw erioed wedi dod yn realiti. Gyda llawer o

berswadio, fe wnaethom uno a dweud y byddem yn ymgeisio gyda’n gilydd ac yn rhannu’r

cyfrifoldeb. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i fynd i mewn i’r diwydiant marchnata amaethyddol a

bydd ennill gwybodaeth am y diwydiant moch ond o fudd i mi yn fy ngyrfa.”

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Rydym yn falch iawn o fod unwaith eto’n partneru â CFfI Cymru i gynnig cyfle i’w haelodau gael cipolwg ar sector ffermio nad ydynt efallai wedi’i brofi o’r blaen.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyflwyniad gwych i ffermwyr ifanc sy’n ystyried ymuno â’r sector moch. Maent yn cael profiad ymarferol o fagu moch, tra bydd y gefnogaeth a gynigir gan Menter Moch Cymru yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr iddynt i ddatblygu eu gyrfaoedd ffermio. Hefyd, ar ôl dwy flynedd o gyflwyno rhithwir, bydd yn wych gallu cynnal hyfforddiant ar y fferm eto!”

Dywedodd Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI, “Mae cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru /CFfI Cymru bob amser yn gystadleuaeth boblogaidd a gwerth chweil, ac yn fenter wych i’n haelodau.

“Mae’n fenter bwysig gan ei bod yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu sgiliau rheoli busnes a da byw, ac rydym yn dymuno pob lwc i enillwyr eleni wrth iddynt ymgymryd â’r fenter newydd hon.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.