10.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Newyddion Lle Mwy na £5.4miliwn ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam

Mwy na £5.4miliwn ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam

0
323
Deputy Minister at Wrexham Museum min
Deputy Minister at Wrexham Museum min

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.45m ychwanegol i Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.

Mae’r arian yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Gwnaeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden y cyhoeddiad ar ymweliad â’r ddinas ac fe ddaw ar adeg pan fo diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru yn uwch nag erioed.

Bydd yr amgueddfa, a fydd yn Amgueddfa Wrecsam ar ôl ailddatblygiad sylweddol o’r adeilad, yn dathlu treftadaeth bêl-droed Cymru ac yn helpu i adeiladu etifeddiaeth yn sgil cyfraniad y genedl yng Nghwpan y Byd FIFA y dynion 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod ei hanes yn cael ei werthfawrogi a bod straeon yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau o chwaraewyr a chefnogwyr y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Wrecsam yw man geni pêl-droed Cymru, felly dyma’r lleoliad delfrydol i ddathlu treftadaeth y gamp.

“Rydym wedi gweld nifer o lwyddiannau, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, ym mhêl-droed dynion a merched. Mae sicrhau bod y digwyddiadau dramatig ac emosiynol ar y llwyfan rhyngwladol, hanes a datblygiad pêl-droed clybiau yng Nghymru ac ysbryd ac amrywiaeth cymuned bêl-droed Cymru yn cael eu harddangos mewn un lle yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Bydd yr amgueddfa newydd yn dod yn lleoliad allweddol yn y ddinas ac yn ychwanegu at yr hyn y mae’r Gogledd yn ei gynnig i dwristiaid ac ymwelwyr. Mae hefyd yn dod ar adeg gyffrous i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw anelu at fynd yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft wych o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Wrecsam a’r Gogledd, yn enwedig yn dilyn y newyddion siomedig diweddar gan Lywodraeth y DU am y cais aflwyddiannus am y gronfa ffyniant bro.”

Bydd llawer o themâu yn cael eu dangos yn Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam gan gynnwys cymunedau Cymraeg, diwylliant cefnogwyr, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phrofiadau LHDTC+.

Ers 2020, mae mwy nag £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi helpu i benodi Curadur Pêl-droed ymroddedig a Swyddogion Ymgysylltu, i ddatblygu dyluniadau, ac ymgynghoriad ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgynghori cymunedol ledled Cymru i ddatblygu cynlluniau a chynnwys arfaethedig.

Mae gwarchod a hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru yn rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:

“Roedd cynnwrf Yma o Hyd wedi lledaenu ar draws Cymru ac ar draws y byd y llynedd gyda’n tîm cenedlaethol yn cyrraedd cwpan y byd. Dangosodd hyn y balchder a’r mwynhad y mae pêl-droed wedi’u rhoi i ni yn ddiweddar a pha mor bwysig ydyw i Gymru.

“Bydd yr amgueddfa hon ar ei newydd wedd yn dathlu cyfraniad ein cenedl i’r gêm a’r dreftadaeth a’r etifeddiaeth y mae’n eu darparu ar ein cyfer i gyd. Mae Wrecsam, dinas sy’n llawn hanes pêl-droed, yn gartref addas ar gyfer y prosiect cyffrous hwn ac rwy’n falch iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i wneud i hynny ddigwydd.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Rwy’n ddiolchgar i’n partneriaid i gyd ein bod yn parhau i weithio’n agos gyda nhw ar y prosiect hwn gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydym nawr mewn cyfnod cyffrous iawn a bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw, yn amodol ar amodau a chymeradwyaeth Achos Busnes Llawn maes o law, yn golygu y gallwn barhau i ymgysylltu â chymunedau ac ar draws Cymru gyfan ar y prosiect, yn ogystal â datblygu’r cynnwys, y casgliadau a’r arddangosfeydd hyd at adeg adeiladu ac agor Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i Wrecsam, cartref ysbrydol pêl-droed, i barhau i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn gan fod pêl-droed yn chwarae rhan mor fawr yn ein diwylliant a’n hunaniaeth a gall pobl Wrecsam a ledled Cymru nawr fod yn sicr y bydd Casgliad Pêl Droed Cymru yn cael ei gadw ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

“Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag amgueddfa newydd i Wrecsam sydd ar hyn o bryd yn gartref i gasgliad mawr a diddorol o wrthrychau hanesyddol sy’n dangos treftadaeth ddiwylliannol unigryw Wrecsam.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.