11.1 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Environmental News Plannwyd 450 o goed i ddathlu 40 mlynedd o gefnogi economïau lleol...

Plannwyd 450 o goed i ddathlu 40 mlynedd o gefnogi economïau lleol yng Nghymru.

0
523
cwmpas tinmanphotography 106 min scaled
cwmpas tinmanphotography 106 min scaled

Logo

Description automatically generated

I ddathlu 40 mlynedd o gefnogi datblygiad miloedd o fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, a busnesau sy’n eiddo i weithwyr ledled Cymru, mae Cwmpas wedi plannu coetir o 450 o goed yn Llanfyrnach, Sir Benfro.

Mae’r coetir, a adwaenir fel Coed Cwmpas, yn cynnwys 450 o lasbrennau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw  (y Woodland Trust yng Nghymru). Bydd y coed yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio creu ardaloedd o goetir newydd, ac adfer coetiroedd hynafol Cymru.

Cwmpas:  Photo credit to Tinman Photography.

Dywedodd Glenn Bowen, Prif Weithredwr Dros Dro Cwmpas…

“Rydyn ni yn Cwmpas mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn y 40 mlynedd rydym wedi bod yn cefnogi busnesau, elusennau ac unigolion yng Nghymru. Rydym wedi arwain miloedd o bobl i greu busnesau cymdeithasol arloesol sydd o fudd i’w cymunedau, yr amgylchedd, a’u heconomïau lleol.

Cwmpas Photo Credit: tinmanphotography

“Trwy blannu Coed Cwmpas i ddathlu’r garreg filltir hon, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i barhau i sicrhau newid er gwell ledled Cymru, a’n hymroddiad i wneud Cymru’n genedl wyrddach a mwy cyfeillgar i’r hinsawdd.”

Sefydlwyd Cwmpas yn 1982 gan TUC Cymru fel Canolfan Cydweithredol cymru, gyda’r nod o ddarparu cymorth busnes i gwmnïau cydweithredol yng Nghymru.

Cwmpas:  Photo credit to Tinman Photography.

Yn dilyn ei sefydlu yn 1982, helpodd Cwmpas i sefydlu’r unedau credyd cyntaf yng Nghymru a’r DU, chwaraeodd ran allweddol ym mhryniant Glofa’r Tŵr gan weithwyr, a chynyddu’r cyflenwad o dai cydweithredol yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mae Cwmpas wedi hyrwyddo ymagwedd fwy cydweithredol at ofal cymdeithasol, wedi helpu i leihau allgáu digidol i 7% yn unig, wedi darparu cymorth busnes i gannoedd o fusnesau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ac wedi cynyddu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddramatig.

Cwmpas:  Photo credit to Tinman Photography.

Bellach yn gweithio fel asiantaeth ddatblygu ar gyfer newid cadarnhaol, mae’r fenter gydweithredol yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.