7.1 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Mae Gyrfa Cymru yn lansio adnodd newydd ar gyfer ysgolion cynradd

Mae Gyrfa Cymru yn lansio adnodd newydd ar gyfer ysgolion cynradd

0
315
Header Careers CIty CY
Header Careers CIty CY

Mae Gyrfa Cymru wedi lansio adnodd newydd i gefnogi dysgwyr ysgolion cynradd i ddysgu am yrfaoedd.

Mae Dinas Gyrfaoedd yn fap rhyngweithiol a ddyluniwyd i gefnogi dysgwyr ym mlynyddoedd 5 a 6 i archwilio gwahanol yrfaoedd a byd gwaith.

Ynghyd â deunyddiau ystafell ddosbarth ategol a nodiadau athrawon, bydd yr adnodd yn helpu athrawon i gynnwys addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn eu cwricwlwm.

Trwy glicio ar adeiladau a nodweddion ar y map sy’n cynrychioli gwahanol sectorau, bydd dysgwyr yn cael eu tywys i animeiddiad sy’n cynnwys swydd ‘anarferol’ o fewn y sector penodol hwnnw, fel technegydd trwsio tedi bêr, rhewlifegydd, peilot dronau’r heddlu neu therapydd celf.

Bydd pob animeiddiad yn rhoi gwybodaeth sy’n addas i oedran y dysgwyr am y swydd, gan gynnwys yr hyn y mae’n ei olygu, yn ogystal â’r diddordebau, sgiliau neu rinweddau a fydd yn ddefnyddiol i allu gwneud y swydd, a phynciau y gallent fod am eu hastudio i ddilyn yr yrfa honno.

Nod yr adnodd yw codi ymwybyddiaeth o’r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael.

Dywedodd Mark Owen, pennaeth gwasanaethau i randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn lansio’r adnodd hwyliog a rhyngweithiol hwn.

“Mae Dinas Gyrfaoedd wedi’i gynllunio i ennyn diddordeb ac ysgogi trafodaeth ymhlith dysgwyr ar lefel ysgol gynradd a’u hannog i feddwl am swyddi a allai fod o ddiddordeb iddynt.

“Fel thema drawsbynciol orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru, mae’n bwysig iawn bod athrawon yn cael eu cefnogi i wreiddio’r thema hon yn eu cynlluniau gwersi a’u cwricwlwm yn ehangach.

“Rydym yn annog athrawon ysgolion cynradd ledled Cymru i edrych ar sut y gallant ddefnyddio’r map hwn yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain, ac i helpu ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr.”

Mae’r sectorau dan sylw yn cynnwys y rhai sy’n cael eu hystyried yn ‘sectorau blaenoriaeth’ gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru.

Mae’r rhestr lawn o sectorau a swyddi yn cynnwys y canlynol:

Amaethyddiaeth – seicolegydd anifeiliaid anwes

Adeiladu – gweithiwr mynediad â rhaff

Y celfyddydau creadigol, y cyfryngau a diwylliant – technegydd trwsio tedi bêrs

Technoleg ddigidol – sibrydwr deallusrwydd artiffisial

Addysg – therapydd celf

Ynni, dŵr a gwastraff – rhewlifegydd

Cyllid, yswiriant a chyfreithiol – archwilydd troseddau ariannol

Iechyd – technolegydd genetig

Gweithgynhyrchu – gwyddonydd mynegiant protein

Gwasanaethau cyhoeddus – peilot dronau’r heddlu

Twristiaeth, lletygarwch, chwaraeon a hamdden – hyfforddwr naid bynji

Cludiant a storio – brocer cychod hwylio

Mae rhagor o wybodaeth am Ddinas Gyrfaoedd ar gael ar Wefan Gyrfa Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.