10.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Farming Y Ffair Aeaf yn gyfle i drafod cyfleoedd a dyfodol ffermio yng...

Y Ffair Aeaf yn gyfle i drafod cyfleoedd a dyfodol ffermio yng Nghymru

0
439
Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths scaled
Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths scaled

Welsh Government News

Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle pwysig i gefn gwlad Cymru gael dangos y gorau sydd ganddi ac i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector amaeth yn enwedig wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Bydd y Gweinidog ar faes y sioe yn Llanelwedd heddiw ac mae wedi ailadrodd mai’r argyfyngau hinsawdd a natur yw’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r sector amaeth a bod gan ffermwyr rôl bwysig y mae’n rhaid iddyn nhw ei chwarae.

Meddai’r Gweinidog: “Mae’n wych bod yn ôl yn Llanelwedd ar ôl Sioe Fawr hwylog iawn yn yr haf.

“Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle pwysig i drafod pynciau amaethyddol, yn enwedig sut i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Mae gennym sector amaethyddol gwych ac ymroddedig ac er lles ein cymunedau, cenedlaethau’r dyfodol, a chynaliadwyedd y diwydiant, rhaid ymateb nawr i’r argyfyngau hyn. Mae yna effeithiau gweladwy eisoes, felly rhaid gweithredu.

“Mae ein gallu i gynhyrchu bwyd yn y fantol os na wnawn ni weithredu ac mae gan ffermwyr rôl bwysig o ran wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae nifer o fesurau y gellir eu cymryd, a byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr i wynebu’r heriau hyn ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

“Dwi bob amser wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd cydweithio ac mae hynny’n hanfodol i ni allu cyflawni’n nodau.”

Mae’r Gweinidog wedi cydnabod hefyd mai’r sefyllfa ariannol anodd fydd un o’r pwyntiau trafod mawr yn y Ffair Aeaf eleni.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn glir mai dyma’r sefyllfa ariannol anoddaf yr ydym wedi gorfod ei hwynebu ers datganoli.

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael gwared ar lefel o sicrwydd a’r mis nesaf daw diwedd gwariant yr UE wrth i’r Rhaglen Datblygu Gwledig ddod i ben.

“Ond rydyn ni’n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ein cymunedau gwledig a’u helpu i lwyddo yn y dyfodol.

“Dwi’n gobeithio bydd pawb yn mwynhau’r Ffair Aeaf a dwi’n disgwyl ymlaen at weld wynebau newydd a chyfarwydd yn Llanelwedd.”

Mae pawb sydd yn y Ffair Aeaf yn cael eu hannog i ymweld â stondin Llywodraeth Cymru a fydd ar agor ar gyfer dau ddiwrnod y digwyddiad.

Fe welwch y stondin yn Neuadd De Morgannwg a bydd gwybodaeth ar gael arni am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y Cynllun Creu Coetir, llygredd amaethyddol, atal ffliw adar a’r help y gall Cyswllt Ffermio ei gynnig i ffermwyr.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.