10.2 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Events Gŵyl ceir clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw dros Ŵyl y Banc

Gŵyl ceir clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw dros Ŵyl y Banc

0
451
SMALLCar show 2 1
SMALLCar show 2 1

 Bydd un o uchafbwyntiau calendr Sir Benfro yn dychwelyd dros Ŵyl y Banc, wrth i Gastell Caeriw baratoi i groesawu rhai o’r hen geir, beiciau modur a cherbydau milwrol clasurol gorau o bob cwr o Dde Cymru.

Bydd Sioe Geir Castell Caeriw yn cael ei chynnal ddydd Llun 6 Mai, gyda digon o adloniant i’r teulu cyfan, gan gynnwys cerddoriaeth drwy’r dydd gan y band gwerin lleol ‘Razor Bill’, ac amrywiaeth o reidiau ffair glasurol a gemau gan gwmni Pembrokeshire Attractions.

Am gost ychwanegol o £2, bydd ymwelwyr iau yn gallu cymryd rhan hefyd mewn Llwybr Adar Arbennig o amgylch y Castell

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal y Sioe Geir boblogaidd yng Nghaeriw am flwyddyn arall. Mae’n gyfle gwych i bobl sy’n ymddiddori a theuluoedd fel ei gilydd i edmygu harddwch hen gerbydau clasurol mewn lleoliad hynafol sydd yr un mor drawiadol.

“Does dim angen archebu tocynnau ymlaen llaw – dewch draw ar y diwrnod i fwynhau’r digwyddiad gwych hwn.”

Bydd Ystafell De Nest ar agor o 10 o’r gloch y bore ymlaen gan weini rholiau cig moch a diodydd poeth, a’r dewis blasus arferol o gacennau a chinio cartref a fydd ar gael am weddill y dydd. Mae croeso i ymwelwyr grwydro’r Castell mawreddog a Melin Heli Caeriw yn ystod eu hymweliad, i ddod i wybod mwy am y digwyddiadau a’r cymeriadau lliwgar a gyfrannodd at hanes diddorol y safle hwn.

Er bod y sioe geir ei hun yn llawn ar hyn o bryd a ddim yn derbyn rhagor o gerbydau mwyach, mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau lle ar gyfer ei gerbyd ar y rhestr wrth gefn, yn cael ei annog i gofrestru ei ddiddordeb drwy ddilyn y ddolen yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw/digwyddiadaur-gwanwyn/.

Caiff y Sioe Geir Castell Caeriw ei chynnal rhwng 10am a 3pm, a bydd y Castell ar agor rhwng 10am a 4.30pm. Codir tâl mynediad arferol. Oedolion £8, Consesiynau £7, Plant £6, a Thocyn Teulu (dau oedolyn a dau o blant) £25.

Cofiwch na fydd y digwyddiad yn mynd rhagddo os bydd y tywydd yn wael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu dilynwch dudalen Facebook Castell Caeriw (Castell a Melin Heli Caeriw) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau.

I gael gwybod mwy am y digwyddiadau eraill a fydd yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros Ŵyl y Banc a drwy weddill y flwyddyn, ewch i www.www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.