17.8 C
Llanelli
Sunday, July 19, 2026
Home Newyddion Lle Cenedlaethau’r dyfodol yn amlinellu syniadau i fynd i’r afael â newid yn...

Cenedlaethau’r dyfodol yn amlinellu syniadau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

0
323
Earthshot scaled
Earthshot scaled

Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, cymerodd 50 o ddisgyblion o 10 ysgol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad Hinsawdd Ieuenctid yn y Senedd yr wythnos hon.

Roedd y digwyddiad yn dathlu’r gwaith y mae ysgolion wedi’i wneud i gwblhau’r heriau a osodwyd drwy brosiect Her Hinsawdd Cymru.

Yn ogystal â chyflwyniadau ac arddangosfeydd gan yr ysgolion oedd yn bresennol, cafodd y bobl ifanc glywed gan Gomisiynydd Plant Cymru ac aelod o Earthshot.  Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol gydag Eco Ysgolion a Maint Cymru, gan edrych ar y mathau o gamau gweithredu y gall pobl ifanc eu cymryd – a ffyrdd o ysbrydoli eraill. Bu’r Urdd, WWF a Sustrans hefyd yn cynnal gweithdai yn y digwyddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:  “Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad brys i genedlaethau’r dyfodol, ond gall mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd ysgogi cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Ein gweledigaeth a’n huchelgais yw cynllunio ar gyfer dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bob un ohonom.

“Mae cydweithio’n hanfodol er mwyn cyflawni hyn, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u syniadau.

“Cydweithio yw’r ffordd Gymreig o fynd i’r afael â heriau mawr. Bydd cydweithio rhwng y llywodraeth, busnesau a chymunedau, gan gynnwys pobl ifanc, yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau a chyflawni’n dyheadau ar gyfer y wlad.

“Roedd yn wych treulio amser yn y digwyddiad i ddeall safbwyntiau a datrysiadau plant a phobl ifanc, a thrafod rôl hanfodol pobl ifanc yn y newid cymdeithasol sydd ei angen.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae’r gwaith mae’r plant a’r bobl ifanc wedi ei wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i herio newid hinsawdd, ac rwy’n falch bod yr ysgolion wedi cydweithio â’r prosiectau gwych hyn i greu profiadau dysgu sy’n ennyn brwdfrydedd. Mae’r gwaith yn enghraifft arbennig o’r hyn y gellir ei wneud pan roddir cyfle i ddysgwyr wneud newid cadarnhaol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.