22.7 C
Llanelli
Thursday, July 30, 2026
Home Community Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg

Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg

0
74
£2.7m ar gyfer canolfannau’r Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn £400,000 i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned Nod y buddsoddiad yw cryfhau cyfleusterau cymunedol a chefnogi defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3.1 miliwn i gryfhau cymunedau Cymraeg ledled Cymru. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys £2.7 miliwn i uwchraddio canolfannau preswyl yr Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn, ynghyd â £400,000 drwy’r cynllun grant Perthyn i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned. Nod y buddsoddiad yw cryfhau cyfleusterau cymunedol, cefnogi economïau lleol a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd y cyllid yn galluogi’r Urdd i ddatblygu llety newydd a chegin estynedig ym Mhentre Ifan, er mwyn cynyddu capasiti’r ganolfan a chaniatáu i fwy o blant a phobl ifanc fwynhau’r profiad unigryw sydd ar gael yno. Bydd hyn yn arwain at greu pum swydd newydd yn yr ardal gan ddarparu hwb economaidd lleol. Bydd buddsoddiadau pellach yng Nglan-llyn a Llangrannog yn gwella ansawdd llety ac yn ariannu Canolfan Bowlio Deg dan do newydd yng Nglan-llyn. Gyda’i gilydd bydd y datblygiadau hyn yn cyfoethogi profiad miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cryfhau gallu’r Urdd i wasanaethu cymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Dros y degawdau mae ein canolfannau preswyl yn llefydd lle mae plant a phobl ifanc yn magu hyder, gwneud ffrindiau ac yn profi’r Gymraeg fel iaith fyw y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth wrth i ni weithio gyda’n gilydd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am helpu sicrhau parhad gwersylloedd yr Urdd fel canolfannau cynhwysol, diogel a blaengar am genedlaethau i ddod, ynghyd â chefnogi cyfleoedd gwaith a gweithgarwch economaidd yn y gymuned.” Bydd y £400,000 o gyllid Perthyn yn cefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu mentrau cymdeithasol y mae’r Gymraeg yn ganolog iddynt, gan gynnwys prosiectau tai dan arweiniad y gymuned. Elfen newydd o’r buddsoddiad eleni yw £100,000 tuag at helpu grwpiau i fynd i’r afael â gwaith adeiladu ac atgyweirio i wella a diogelu adeiladau ac asedau lleol. Un prosiect sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Perthyn yw Canolfan Bethlehem yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Bethlehem, John Francis: “Roedd y grant Perthyn yn allweddol i’n helpu i roi bywyd newydd i hen Gapel Bethlehem, ac fe roddodd hyder i ni y gallwn wireddu ein gweledigaeth. Fe lwyddon ni i drawsnewid adeilad gwag yn ganolfan dreftadaeth, ddiwylliannol a chelfyddydol fywiog i’r gymuned. Mae’r ganolfan bellach yn cynnal arddangosfeydd, sgyrsiau, perfformiadau a digwyddiadau diwylliannol ac wedi dod yn lle croesawgar i bobl leol ac ymwelwyr ddod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith, ein treftadaeth a’n bro.” Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: “Mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a chefnogi’n cymunedau i ffynnu. “P’un a yw’n creu swyddi, cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, neu’n helpu cymunedau i ddatblygu cyfleusterau lleol, rydyn ni’n buddsoddi mewn llefydd sy’n cryfhau bywyd cymunedol ac yn cefnogi dyfodol ein hiaith.”
Mwynhau yn Llangrannog

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.