15.9 C
Llanelli
Saturday, September 12, 2026
Home Newyddion Lle Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion ym Mangor

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion ym Mangor

0
583
Bangor LL Tw W
Bangor LL Tw W

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau heno y bydd cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno ym Mangor yn dilyn cynnydd mawr mewn achosion.

Daw’r mesurau newydd i rym am 6pm nos Sadwrn 10 Hydref, i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn yr ardal.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw mewn wyth ward, sydd yn ninas Bangor:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i’r ardal na’i gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i gael addysg
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, am y tro. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig na bod yn rhan o un, ac eithrio swigod dros dro ar gyfer pobl sengl a rhieni sengl.

Mae’r cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Mae’r ardal amddiffyn iechyd leol wedi’i thargedu ym Mangor yn cael ei chreu fel ymateb i glwstwr sylweddol o achosion sydd wedi datblygu yn y ddinas – mae’r gyfradd achosion tua 400 achos am bob 100,000 o bobl. Mae’n ymddangos bod cysylltiad agos rhwng yr achosion â phobl ifanc a’r boblogaeth o fyfyrwyr.

Yn ardal awdurdod lleol ehangach Gwynedd, mae tystiolaeth o drosglwyddo’r coronafeirws ledled y sir ond mae’r gyfradd achosion yn amrywio o 152 o achosion am bob 100,000 o bobl yn Arfon, sy’n cynnwys Bangor, i 55 o achosion am bob 100,000 o bobl yn Nwyfor a 19 o achosion am bob 100,000 o bobl ym Meirionnydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau helaeth gyda’r awdurdod lleol, Prifysgol Bangor, y GIG, Heddlu Gogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus am y sefyllfa yng Ngwynedd a’r angen am gyfyngiadau lleol ym Mangor.

Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r awdurdod lleol a’r tîm rheoli digwyddiadau am y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion ym Mangor, sy’n gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy’n cymdeithasu.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, yr heddlu yng Ngogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus i asesu’r angen am gyfyngiadau lleol. Rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau wedi’u targedu ym Mangor.

“Rydym eisiau trafod y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd yn fanylach fory i benderfynu a fydd angen ymestyn y cyfyngiadau lleol yn ehangach ar draws y sir.

“Mae rhannau helaeth o Gymru bellach yn destun cyfyngiadau lleol, ond rwyf am fod yn glir – nid cyfyngiadau symud cenedlaethol yw’r rhain. Cyfres o gyfyngiadau lleol yw’r rhain sy’n ymateb i gynnydd mewn achosion mewn ardaloedd unigol.

“Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn helpu i reoli lledaeniad y feirws. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd. Nid mater o ddiogelu ein hunain yn unig yw hwn, ond diogelu ein gilydd.”

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan yr awdurdodau lleol a’r heddlu.

Dyma’r camau i’w dilyn i Ddiogelu Cymru:

  • Cadw’ch pellter bob amser
  • Golchi’ch dwylo’n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan allwch chi
  • Dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
  • Meddwl yn ofalus ynghylch gyda phwy rydych chi’n cyfarfod a ble rydych chi’n mynd – po fwyaf o lefydd y byddwch yn mynd iddynt, y mwyaf o siawns sydd y byddwch yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau. 

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.