10.8 C
Llanelli
Sunday, May 10, 2026
Home Local News Neath Port Talbot News Gwaith adeiladu i ddechrau ar Ganolfan Dechnoleg arloesol sy’n hunan-bweru

Gwaith adeiladu i ddechrau ar Ganolfan Dechnoleg arloesol sy’n hunan-bweru

0
641
SBTC South View 01 3
SBTC South View 01 3
Play

Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ym Mharc Ynni Baglan ar adeiladu canolfan dechnoleg arloesol a fydd yn hunan-bweru.

Bydd y cyfleuster gwyrdd, arloesol, dan nawdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn darparu swyddfeydd hyblyg ar gyfer cwmnïau sy’n dechrau a busnesau lleol ar eu prifiant, gyda chanolbwynt ar sectorau Ymchwil a Datblygu ac Arloesi (er nad y rhain yn unig).

Mae’r ganolfan dechnoleg yn rhan o raglen Bargen Ddinesig y cyngor sy’n Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, gyda’r nod o ddarparu twf economaidd carbon-isel, cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer y rhanbarth.

Bydd y cyfleuster yn cyd-fynd â’r Ganolfan Arloesi Bae Baglan gyfagos, a bydd yn parhau i weld twf Parc Ynni Baglan ac, yn ehangach, ardal Parth Menter Glannau Port Talbot, sy’n ymestyn o’r Harbwr yn ardal dociau’r dref hyd at y Parc Ynni.

Nod Parth Menter y Glannau, gyda’i gysylltiadau trafnidiaeth agos o ran y rheilffordd a’r M4, yw cryfhau dichonoldeb Castell-nedd Port Talbot fel lle i fyw a gweithio ynddo, yn ogystal ag ateb y galw am gartref i swyddfeydd, labordai a busnesau digidol a chyffredinol hefyd.

Ar ôl ei adeiladu (a disgwylir i’r gwaith gymryd 12 mis) bydd y ganolfan dechnoleg yn parhau i ganolbwyntio ar ynni adnewyddol, yn enwedig hydrogen, gan alluogi gwaith arloesi, ymchwil a datblygu i ddigwydd.

Penodwyd Morgan Sindall Group Plc i gynllunio ac adeiladu’r ganolfan dechnoleg newydd.

Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Drwy godi’r adeilad hybrid hwn ar gyfer canolfan dechnoleg, fydd yn cynnig rhyw 2,500 metr sgwâr o swyddfeydd hyblyg o safon uchel, mewn safle cyflogi strategol, bydd y prosiect yn cefnogi ac yn annog twf mewn swyddi mewn sectorau strategol a amlygwyd yn y rhanbarth (ar gyfer busnesau newydd a rhai brodorol), gan arwain at gynnydd mewn swyddi a mwy o werth i economi’r rhanbarth.”

Amcangyfrifir y bydd holl raglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel yn werth £6.2 miliwn y flwyddyn i’r economi leol ar ôl i bob prosiect ddechrau gweithredu. Bydd dros 1,300 o swyddi’n cael eu creu neu’u diogelu, a bydd o leiaf 30% ohonynt yn rhai newydd.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector gyhoeddus a’r sector breifat, yn cael ei harwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r rhaglen fuddsoddi’n werth £1.8 biliwn, a bydd yn dod â thros 9,000 o swyddi i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe dros y blynyddoedd nesaf.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here