Yr heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhywiol yn Nhrostre, Llanelli

0
690

Mae’r heddlu’n ymchwilio i honiad o ymosodiad rhywiol ar fenyw 18 oed a ddigwyddodd am 3.30y.p. ddydd Gwener 11 Ebrill 2014, yn yr isffordd ger Parc y Scarlets, Trostre, Llanelli.

Ni anafwyd y fenyw yn ystod y digwyddiad hwn; fodd bynnag, mae’r heddlu nawr yn ceisio adnabod y drwgdybiedig a ddisgrifir fel:

Dyn gwyn, tua 60 oed, tua 6 troedfedd o daldra, o gorffolaeth mawr. Mae ganddo wallt brown sy’n gwynni sy’n eithaf cwrliog ac yn anniben. Roedd e’n gwisgo siwmper felen llachar o wneuthuriad ‘Lonsdale’ â hwd, a throwsus tracwisg o wneuthuriad ‘Lonsdale’, ac yn cario can o seidr Strongbow.

Os ydych chi’n medru adnabod y dyn hwn, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, galwch Ditectif Gwnstabl 669 Mathew Davies ar 101 yn CID Llanelli.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here