9.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Government Gamblo ar gynnydd yn ystod y cyfnod clo ymysg grwpiau mwyaf agored...

Gamblo ar gynnydd yn ystod y cyfnod clo ymysg grwpiau mwyaf agored i niwed, meddai TUC Cymru

0
467
Shavanah Taj profile Wales TUC
Shavanah Taj profile Wales TUC
  • Mae bron i saith ym mhob deg (68%) o gamblwyr presennol wedi cynyddu un ai nifer yr arian neu’r amser a dreuliwyd ar o leiaf un gweithgaredd gamblo
  • Arolwg YouGov yn datgelu bod gamblwyr rhwng 18-34 oed wedi nodi cynnydd mewn gamblo
  • TUC Cymru yn lansio pecyn cymorth Gamblo Problemus yn ystod Wythnos Gamblo Mwy Diogel (19 – 25 Tachwedd)

Yn ôl TUC Cymru, mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn “niweidiol tu hwnt” i’r rheiny yr effeithir arnynt gan gamblo problemus.

Mae dyledion, perthnasoedd yn torri i lawr, iechyd meddwl gwael a hyd yn oed hunanladdiad wedi bod yn gysylltiedig â thwf gamblo problemus yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:  

“Gall gamblo problemus afael yn dynn ar eich bywyd chi. Bellach, mae eich ffôn symudol yn gasino yn eich poced, gyda gamblo ar-lein ar flaenau eich bysedd 24/7.  

Mae niweidiau gamblo yn mynd y tu hwnt i’r unigolyn, ac yn effeithio ar ei ffrindiau, ei anwyliaid a’i gydweithwyr.  

Gall Undebau chwarae rhan allweddol o ran cefnogi aelodau yn ystod eu taith iechyd meddwl, a’u cyfeirio at gefnogaeth briodol, wrth greu diwylliant yn y gweithle sy’n gefnogol ac yn llawn cydymdeimlad.

Dyma pam mae TUC Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gynrychiolwyr, er mwyn cefnogi aelodau sy’n wynebu gamblo problemus, ac i’w cyfeirio at gymorth.” 

Bydd pecyn cymorth TUC Cymru’n cael ei lansio ddydd Iau, 19 Tachwedd, gyda digwyddiad ar-lein yn ystod Wythnos Gamblo Mwy Diogel (19-25).

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Carolyn Harris – Aelod Seneddol (Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Niwed Gamblo), Mick Antoniw – Aelod Senedd Cymru (Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamblo Problemus), ac ARA sy’n cynnig cwnsela a chefnogaeth i gamblwyr problemus a phobl eraill sy’n cael eu heffeithio ganddo.   


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.