6.1 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Mwy o gefnogaeth i weithwyr llawrydd chwaraeon

Mwy o gefnogaeth i weithwyr llawrydd chwaraeon

0
801
SportWales Logo
SportWales Logo

Mae Chwaraeon Cymru wedi ailagor ei Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon i ddarparu mwy o gymorth ariannol i hyfforddwyr ffitrwydd, hyfforddwyr personol, cyfarwyddwyr a gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd eraill sy’n cyflwyno gweithgareddau yn uniongyrchol sy’n sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn symud.

Pan agorodd cam cyntaf y gronfa ym mis Tachwedd, darparodd grantiau o £1,500 i 346 o unigolion yn y sector nad oeddent wedi derbyn unrhyw gymorth arall yn ystod y pandemig.

Nawr, gyda’r cyfyngiadau symud presennol yn rhoi mwy fyth o bwysau ar weithwyr llawrydd sydd eisoes wedi colli incwm yn ystod 2020, mae swm y grant wedi cynyddu i £2,500 ac mae’r meini prawf wedi cael eu hehangu mewn ymgais i helpu mwy fyth o bobl.

I fod yn gymwys, mae angen i ymgeiswyr ddangos sut maent wedi colli o leiaf £2,500 mewn incwm o weithgareddau a ddylai fod wedi cael eu cynnal yng Nghymru ers i’r argyfwng ddechrau, oherwydd bod contractau’n cael eu canslo neu gyfyngiadau’n atal eu gwaith.

Gallant wneud cais o hyd os ydynt wedi cael arian gan y cynllun cymorth incwm hunangyflogedig, ond ni fyddant yn gymwys os ydynt wedi derbyn cyllid arall sy’n gysylltiedig â Covid-19 gan gorff cyhoeddus arall neu daliad yswiriant am golli incwm.

Mae posib cyflwyno ceisiadau drwy wefan Chwaraeon Cymru rhwng hanner dydd ar ddydd Iau 21 Ionawr a 5pm ar ddydd Mercher 3 Chwefror.

Mae canllawiau llawn ar bwy sy’n gymwys ar gyfer y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon, a sut i wneud cais, ar gael yn www.sport.wales/sportfreelancerfund

Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon yn rhan o Becyn Adfer Chwaraeon a Hamdden cyffredinol gwerth £14m sydd wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru fel bod sefydliadau, cyfleusterau a swyddi chwaraeon yn gallu cael eu gwarchod.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Y gronfa yma yw’r gyntaf o’i bath yn y DU i weithwyr chwaraeon llawrydd, ac mae’n arwydd clir arall o’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar chwaraeon a’u gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

“Mae cymaint o unigolion gweithgar yng Nghymru sy’n gwneud bywoliaeth o hyfforddi, cynnal gwersylloedd ymarfer, addysgu dosbarthiadau ffitrwydd, a gwneud pob math o bethau eraill i’n cadw ni’n actif.

“Roedden ni’n hynod falch o lwyddiant cam cyntaf y gronfa yma ym mis Tachwedd, pan roddwyd blaenoriaeth gennym ni i gael cyllid yn gyflym i gannoedd o bobl oedd heb dderbyn unrhyw fath o gymorth ariannol yn ystod y pandemig.

“Drwy ymestyn y meini prawf, rydyn ni’n gobeithio y bydd y newidiadau’n galluogi mwy o bobl i wneud cais y tro yma.

“Gan ei fod wedi bod yn gyfnod mor heriol i weithwyr llawrydd, rydyn ni hefyd yn falch o allu cynyddu swm y grant i £2,500. Rydyn ni’n sylweddoli na fydd £2,500 yn gwneud iawn am yr holl golledion ariannol y mae llawer wedi’u dioddef, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arian yma’n cyfrannu rhywfaint tuag at helpu i sicrhau y gall yr unigolion yma aros yn y sector, gan barhau i ddefnyddio eu doniau i wella bywydau pobl eraill.”

Bydd unrhyw un a wnaeth gais llwyddiannus am grant o £1,500 ym mis Tachwedd yn cael cynnig y £1,000 ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael yr un swm â’r arian sydd ar gael yn ystod y cam hwn ac felly nid oes angen iddynt wneud cais eto.

Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon ar agor i weithwyr llawrydd a gweithwyr hunangyflogedig yng Nghymru y mae eu gwaith yn cefnogi pobl yn uniongyrchol i fod yn actif, fel hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr personol, hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr dawns. Nid yw ar gael i weithwyr llawrydd eraill sy’n gweithio yn y diwydiant, fel awduron chwaraeon, sylwebyddion, ffotograffwyr, therapyddion chwaraeon a maethegwyr.

Ymhlith y rhai sy’n croesawu’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon mae Vernon Cornish, hyfforddwr ffitrwydd yng Nghaerdydd a ddywedodd: “Adeg y cyfyngiadau symud cyntaf roeddwn i’n dysgu tua 13 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ac roedd yr amgylchiadau’n golygu bod fy incwm i wedi dod i ben dros nos. Mae’r Gronfa yma’n cynnig ochenaid enfawr o ryddhad nid yn unig oherwydd fy mod i’n gallu hawlio rhywfaint o’r incwm rydw i wedi’i golli yn ôl ond hefyd oherwydd eich bod chi’n gallu cael gwared ar rywfaint o’r pryder am ddyfodol ansicr.”

Dywedodd Tara Dillon, Prif Swyddog Gweithredol CIMSPA: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol dros ben i bawb yn ein sector ni, yn enwedig i’r miloedd lawer o weithwyr proffesiynol llawrydd a hunangyflogedig sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 ond sydd wedi’u heithrio o gymorth ariannol Llywodraeth y DU.

“Mae’r rhain yn weithwyr proffesiynol ymroddedig a gweithgar sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i’r cyhoedd, ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd o roi rhywfaint o gymorth iddyn nhw. Rydyn ni’n annog unrhyw rai o’n haelodau yng Nghymru sy’n credu eu bod yn bodloni’r meini prawf i edrych ar y wefan a gwneud cais.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon, ewch i www.sport.wales/sportfreelancerfund.

Ddechrau mis Chwefror, bydd Chwaraeon Cymru hefyd yn lansio cronfa newydd i gefnogi darparwyr preifat yn y sector chwaraeon. Bydd manylion llawn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yn fuan.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.