7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Newyddion Lle Dull Llafur o fynd i’r afael ag ail gartrefi yn “wan” ac...

Dull Llafur o fynd i’r afael ag ail gartrefi yn “wan” ac yn cychwyn problem glaswellt hir

0
355
d5eeab8d9fb4aaa88e8210ede24d6655
d5eeab8d9fb4aaa88e8210ede24d6655

Wrth ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ail gartrefi a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2021), meddai Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS, 

“Mae’r “dull uchelgeisiol” bondigrybwyll hwn o fynd i’r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio’r broblem i lawr y lon heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau. 

“Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag argyfwng tai sy’n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus. Nid oes unrhyw beth yma ynglŷam gau’r bwlch cyfreithiol parthed y dreth gyngor. Nid oes unrhyw beth yma am osod capiau ar ail gartrefi. Ac nid oes unrhyw beth yma am ddod â niferoedd cartrefi gwyliau i berchnogaeth gymunedol trwy ymyrraeth gyhoeddus – gan ddargyfeirio elw i ddatblygiadau lleol fel darparu tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori. 

“Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw gweithredu ar frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr – nid ymgynghoriadau poenus na threialon canol y ffordd. 

“Mae Plaid Cymru yn mynnu ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng tai, megis newidiadau i gyfreithiau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi a chau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a diwygio cyfraith Cyllid yr Awdurdodau Lleol i rymuso awdurdodau lleol i reoli’r stoc dai yn well. 

“Nid yw’r argyfwng tai sy’n wynebu Cymru wedi’i gyfyngu i ychydig o gymunedau pell i ffwrdd. Mae’n cael sgil-effaith ym mhob cymuned ar hyd a lled ein cenedl. Mae’n ddyled ar y Llywodraeth Lafur i’r bobl yn y cymunedau hyn fynd i’r afael â’r argyfwng gyda’r difrifoldeb a’r brys y mae’n ei haeddu – gan sicrhau eu bod yn gallu byw a gweithio yn yr ardal maen nhw’n ei galw’n gartref.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.