8.4 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home Local News Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu hawliau...

Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu hawliau siaradwyr Cymraeg

0
543
2021 baner e bost diwrnod hawliaur gymraegwelsh language rights day e mail banner
2021 baner e bost diwrnod hawliaur gymraegwelsh language rights day e mail banner

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu hawliau i ddefnyddio’r iaith ac i gymryd camau pellach er mwyn gwireddu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Cytundeb Cydweithio rhwng y ddwy blaid yn cynnwys polisi i ehangu safonau’r Gymraeg i ragor o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr, a chyrff cyhoeddus eraill. Mae ymrwymiad hefyd i ddechrau’r gwaith o gyflwyno safonau i gymdeithasau tai, i’w gwblhau yn ystod tymor y Senedd.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: ‘Mae tystiolaeth glir bod safonau’r Gymraeg wedi arwain at wella profiadau pobl wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at greu sefyllfa lle mae gan weithwyr ragor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith, lle cymerir perchnogaeth ar lefel sirol dros hybu’r defnydd o’r Gymraeg a lle mae dyletswydd i ystyried yr iaith mewn penderfyniadau polisi.

‘Yn fy argymhellion maniffesto i’r pleidiau gwleidyddol cyn Etholiad y Senedd, gelwais am gynnal y momentwm er mwyn sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau, a bod y Llywodraeth yn ailafael yn y broses o osod safonau ar y cyfle cyntaf gan ddod â nifer cynyddol o sefydliadau o dan y gyfundrefn honno.

‘Rwy’n croesawu gweld yr ymrwymiad i wneud hyn yn y Cytundeb Cydweithio, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth i sicrhau bod y gwaith o gyflwyno safonau i ragor o sectorau yn dechrau yn ddi-oed.’

Mae’r Cytundeb Cydweithio hefyd yn adlewyrchu nifer o argymhellion maniffesto eraill y Comisiynydd, gan gynnwys: cynyddu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg; symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, gan sicrhau cynnydd yng nghyfran y cwricwlwm a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu cyfran y prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg; diogelu a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg a gweithredu i leihau faint o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau.

Ychwanegodd Aled Roberts: ‘Rwy’n croesawu gweld yr argymhellion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cytundeb Cydweithio, ac yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau a fydd yn arwain at greu’r hinsawdd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol.’


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.