6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Local News Cynnydd mewn gwasanaethau trên o Ragfyr 2021

Cynnydd mewn gwasanaethau trên o Ragfyr 2021

0
486
fdc43d249a5d43c0881e06df0ef18bb7
fdc43d249a5d43c0881e06df0ef18bb7
Transport For Wales News

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith wrth i gynnydd mewn gwasanaethau trên ddod i rym ym mis Rhagfyr 2021.

O ddydd Sul 12 Rhagfyr, bydd amserlen reilffordd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a’r Gororau. Bydd hefyd yn gweld gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu hailgyflwyno rhwng Crosskeys a Chasnewydd am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd.

Er na effeithir ar lawer o amseroedd gwasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio yn drylwyr eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill o’r 12fed Rhagfyr. Mae’n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio. 

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n brysurach nag y maent wedi bod, yn enwedig yn y cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.  Ar hyn o bryd, nid oes rhaid cadw pellter cymdeithasol, ond mae gorchuddion wyneb yn orfodol, oni bai bod y teithiwr wedi’i eithrio. I’r cwsmeriaid hynny sy’n dymuno teithio ar wasanaethau tawelach, dylent ddefnyddio ein teclyn Gwirio Capasiti.

Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, oni bai eu bod wedi’u  heithrio.  Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeedig. 

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC.  Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau yma.

Cynehlir gwaith ar drawsnewid y Metro dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid wirio i ddarganfod a effeithir ar eu gwasanaeth.

Mae gwaith peirianneg mawr yn parhau ar Draphont Y Bermo tan ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr.  O ganlyniad, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.