7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Newyddion Lle Yr Arglwydd Burns i arwain Adolygiad Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Yr Arglwydd Burns i arwain Adolygiad Trafnidiaeth Gogledd Cymru

0
432
Lee Waters
Lee Waters

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi heddiw y bydd  comisiwn trafnidiaeth newydd yn cael ei sefydlu a fydd yn datblygu cyfres o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru.

Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn dilyn model y comisiwn a sefydlwyd yn dilyn canslo ffordd liniaru’r M4 yn Ne-ddwyrain Cymru a bydd hefyd yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Terry Burns, cyn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys y DU.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn argymhellion gan Banel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru a’r Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, ar gyfer adolygiad ‘aml-foddol’ o goridor yr A55.

Bydd yr adolygiad blwyddyn o hyd yn datblygu argymhellion ar gyfer teithio ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws pob rhan o ogledd Cymru.

Mae’r cam hwn yn dilyn cyngor y Panel Adolygu Ffyrdd i ganslo’r cynlluniau presennol ar gyfer gwella Cyffordd 14/15 a 16/16A yr A55, y mae Gweinidogion wedi cytuno arno. Cytunwyd hefyd pa gynlluniau eraill y bydd y Panel yn eu hystyried fel rhan o’u hadroddiad terfynol y bwriedir ei gyhoeddi yr haf hwn.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

“Os ydym o ddifrif am wynebu’r Argyfwng Hinsawdd, mae’n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau’n wahanol, ac yn bwysicach na dim gynnig dewisiadau eraill ac ymarferol i bobl ar draws gogledd Cymru yn lle defnyddio eu ceir ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau.

“Yn ogystal ag edrych ar goridor yr A55, bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig. Bydd angen buddsoddi rhagor mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac rwy’n falch iawn bod yr Arglwydd Burns wedi cytuno i arwain panel o arbenigwyr lleol i lunio rhestr fanwl o brosiectau y bydd eu hangen i wireddu hyn.

“Nid yw hyn yn golygu na fydd ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu, ond mae’n golygu mwy o bwyslais ar ofalu am y ffyrdd sydd gennym eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn opsiynau eraill ac ymarferol i roi dewis gwirioneddol i bob.l”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.