7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Mae rhoddion elusennol yn ariannu clustogau lleddfu pwysedd i’w defnyddio ledled Sir...

Mae rhoddion elusennol yn ariannu clustogau lleddfu pwysedd i’w defnyddio ledled Sir Gaerfyrddin

0
316
HDHC Landscape Logo CMYK
HDHC Landscape Logo CMYK

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi prynu Clustogau Repose i’w defnyddio ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae Clustogau Repose yn glustog lleddfu pwysau a ddefnyddir ar gadeiriau a chadeiriau olwyn cyffredinol i leddfu pwysedd a lleihau nifer yr achosion o ddolur pwysedd.

 Bydd y clustogau’n cael eu defnyddio gan y tîm nyrsio cymunedol sy’n cefnogi cleifion ar draws Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

 Dywedodd y Brif Nyrs Alison Wardrop, Nyrs Ardal Iau: “Rydym mor ddiolchgar i’r cleifion a’r teuluoedd y mae eu rhoddion wedi ein galluogi i brynu’r clustogau Repose hyn.

 “Bydd ein nyrsys nawr yn gallu cynnig y clustogau i helpu i leddfu poen ac anesmwythder cleifion wrth eistedd mewn cadeiriau neu gadeiriau olwyn am gyfnodau hir o amser. Bydd y clustogau hefyd yn helpu i leihau amlder a difrifoldeb dolur pwysedd yn y gymuned leol.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.