7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Arts and Media Cyfle i ddarganfod byd y Geiriau Diflanedig gyda’r darlunydd Jackie Morris

Cyfle i ddarganfod byd y Geiriau Diflanedig gyda’r darlunydd Jackie Morris

0
476
Jackie Morris scaled
Jackie Morris scaled

Bydd y darlunydd enwog, Jackie Morris, yn ymddangos ochr yn ochr â’i gwaith ei hun yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi ar gyfer digwyddiad unigryw sy’n rhan o’r arddangosfa gyfredol Geiriau Diflanedig – The Lost Words.

Mae’r llyfr Geiriau Diflanedig wedi ennill gwobrau ac mae’n edrych ar y berthynas rhwng iaith a’r byd byw. Mae’r arddangosfa deithiol yn dwyn ynghyd y gwaith celf gwreiddiol gan Jackie Morris a’r cerddi Cymraeg gan Mererid Hopwood a’r cerddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Bydd y digwyddiad galw heibio rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â darlunydd y llyfr wrth iddi dreulio’r diwrnod yn rhannu ei gwaith yn yr Oriel.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ymgolli ym myd hudolus Geiriau Diflanedig a chysylltu â’r artist sy’n gyfrifol am y darluniau hudolus. Agorodd yr arddangosfa ddechrau mis Gorffennaf ac mae wedi bod yn boblogaidd dros ben. Mae wedi rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n wynebu natur a’r Gymraeg.”

Bydd Jackie Morris: Darlunio a Pheintio yn yr Oriel yn cael ei gynnal yn Oriel y Parc rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.

Mae geiriau a dyfrlliwiau o’r llyfr hefyd yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd fel rhan o’r cydweithio rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.

 Mae rhagor o wybodaeth am amseroedd agor yn ogystal â digwyddiadau ac arddangosfeydd eraill yn Oriel y Parc ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.