7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Codwyr arian yn trefnu dawns elusennol er budd Apêl

Codwyr arian yn trefnu dawns elusennol er budd Apêl

0
341
Lowri and Lisa with their grandfather
Lowri and Lisa with their grandfather

Dewch o hyd i’ch dillad parti gorau! Mae’r cefndryd Lowri Elen Jones, 19 oed o Beniel yn Sir Gaerfyrddin, a Lisa Ann Evans, 21 oed o Langybi yng Ngheredigion, yn trefnu dawns elusennol, raffl ac ocsiwn er budd Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin am 7:00pm ddydd Sadwrn 15 Mehefin 2024.

Nod Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip yw ariannu gerddi therapiwtig newydd i gleifion yn Ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a Ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely. Mae’r wardiau wedi’u lleoli drws nesaf i’w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i le awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw’r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw’n addas ar gyfer cleifion.

Penderfynodd Lowri a Lisa drefnu’r digwyddiad er budd yr Apêl gan fod eu tad-cu, Hywel Griffiths, yn glaf ar Ward Bryngolau.

Dywedodd Lowri: “Mae’r achos teilwng hwn yn agos iawn at ein calonnau fel teulu. Rydym wedi penderfynu cynnal dawns i godi arian at yr Apêl i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n diolchgarwch i’r ward.

“Mae fy Nhad-cu yn gyn-ffermwr, felly mae wedi arfer ag awyr iach a bod allan ym mhob tywydd.

“Yn ôl ym mis Awst 2023, cafodd ei symud i Ward Bryngolau. Siomedig oedd gwybod nad oedd y man awyr agored yn addas ar gyfer y cleifion, o gofio pa mor bwysig yw fitamin D i’n hiechyd meddwl, heb sôn am glaf sydd mewn gofal i wella eu hiechyd meddwl. Bydd y gerddi hyn o fudd i bob claf ar y ward beth bynnag fo’u cefndir.

“Gwerthodd y tocynnau’r ddawns allan mewn llai nag wythnos ar ôl i ni eu rhyddhau. Roeddwn i a Lisa wedi fy syfrdanu gan faint o ddiddordeb a chefnogaeth a gawsom gan ffrindiau. Ein nod yw codi cymaint o arian â phosibl er mwyn gallu helpu’r holl gleifion, staff ac ymwelwyr ar y ward.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Lowri a Lisa am drefnu digwyddiad mor wych er budd yr Apêl.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

Os hoffai unrhyw un brynu tocyn raffl neu roi cyfraniad tuag at y digwyddiad, cysylltwch â Lowri ar 07903 128183.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i:

https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/apel-gerddi-ysbyty-tywysog-philip/

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.