7.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Prif Weinidog Cymru yn talu teyrnged i aberth y Cymry ar D-Day

Prif Weinidog Cymru yn talu teyrnged i aberth y Cymry ar D-Day

0
326
fm dday80 flag park 1 scaled
fm dday80 flag park 1 scaled

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiad yn Ffrainc i nodi 80 mlynedd ers D-Day.

Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y digwyddiad coffa cenedlaethol yn safle’r Gofeb Brydeinig yn Ver-sur-Mer, Normandi lle bydd cyn-filwyr D-Day a 2,000 o westeion yn talu teyrnged i’r rhai a fu farw.

Wedi hynny, bydd yn ymweld â thref Asnelles i dalu teyrnged wrth y gofeb i Gyffinwyr De Cymru, yr unig uned Gymreig i lanio ar D-Day. Ochr yn ochr â Maer Asnelles, bydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan mewn digwyddiad coffa a bydd yn gosod torchau ar gyfer Cyffinwyr De Cymru a Chatrawd y Cymry Brenhinol – catrawd sy’n olrhain ei gwreiddiau yn ôl i Gyffinwyr De Cymru.

D-Day oedd ymosodiad llwyddiannus y cynghreiriaid ar draethau Normandi ar 6 Mehefin 1944. Gyda’r enw cod Ymgyrch Neptune, glaniadau Normandi oedd yr ymosodiad mwyaf ar y môr mewn hanes. Gwnaeth yr ymgyrch hon chwarae rhan dyngedfennol i ryddhau gorllewin Ewrop o feddiannaeth y Natsïaid.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Heddiw, rydyn ni’n cofio am bawb a wnaeth wasanaethu yn ymgyrch Normandi, a oedd yn ymdrech ryngwladol ac yn allweddol i sicrhau diwedd ar y rhyfel. Bydd gan lawer o deuluoedd yng Nghymru gysylltiad â’r achlysur coffa heddiw, drwy straeon teuluol sydd wedi’u rhannu o un genhedlaeth i’r llall.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n cofio am y cynifer o filwyr o Gymru a frwydrodd yn y Rhyfel, gan gynnwys Cyffinwyr De Cymru, sef yr uned a aeth, yn arwrol, bellaf i’r tir o’r rhai a laniodd ar draethau Normandi ar D-Day.

“Mae hefyd yn anrhydedd imi heddiw gael cyfarfod â rhai o’r cyn-filwyr a oedd yn gwasanaethu adeg D-Day yn 1944. Gwnaeth eu haberth nhw arwain at yr heddwch cymharol rydyn ni’n byw ynddo heddiw. Am hynny, byddwn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am byth.”

Dywedodd yr Uwch-frigadwr Chris Barry CBE, Cyrnol Catrawd y Cymry Brenhinol:

“Mae’n anrhydedd mawr i’r Cymry Brenhinol y bydd y Prif Weinidog yn gosod torch wrth Gofeb 2il Fataliwn Cyffinwyr De Cymru yn Asnelles i gofio am eu glaniad ar D-Day ar 6 Mehefin 1944. 

“Ar ôl glanio, gwnaeth yr 2il Fataliwn gyflawni eu hamcanion milwrol yn llwyddiannus gan wneud y cynnydd mwyaf ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch i adennill tir i’r Cynghreiriaid.  Nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn anrhydeddu’r Rhyfelwyr Cymreig hynny o’r gatrawd a wnaeth yr aberth mwyaf erioed i adfer heddwch i Ewrop.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.