6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Hywel Dda Health Charities NFU Sir Gaerfyrddin yn cyfrannu £7,899 i Uned Cemotherapi Glangwili

NFU Sir Gaerfyrddin yn cyfrannu £7,899 i Uned Cemotherapi Glangwili

0
449
image003

Mae NFU Sir Gaerfyrddin Canolog wedi dewis yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn rhodd o £7,899.

Gwnaed y rhodd yn bosibl drwy Gronfa Rhoi Asiantaethau Cydfuddiannol NFU gyda swyddfeydd Sir Gaerfyrddin yn enwebu’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn y rhodd.

Dywedodd Laura Tucker, Rheolwr yr Asiantaeth: “Ni yw asiantaeth leol cwmni yswiriant NFU Mutual.

“Mae NFU Mutual yn dyrannu pot o arian bob blwyddyn a gall pob asiantaeth ddewis elusen i roi cyfran iddi. Dewisom yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili gan eu bod wedi gofalu am ffrind gorau un o’n hasiantau yn ddiweddar.”

Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i  NFU Sir Gaerfyrddin am gefnogi’r uned, gan arwain at rodd hael iawn o £7,899.00.

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch yn fawr”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i NFU Caerfyrddin am enwebu’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn y rhodd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.