7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Newyddion Lle ‘Mae San Steffan yn ein trin fel bygythiad – ac y mae...

‘Mae San Steffan yn ein trin fel bygythiad – ac y mae hynny’n nod o anrhydedd.’

0
168
53845583440 281787b174 o

O gael ei thrin fel rhyw odrwydd rhanbarthol, mae San Steffan nawr yn trin Plaid Cymru fel ‘bygythiad’, medd Liz Saville Roberts AS

Wrth siarad yng Nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghasnewydd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, fod Llafur y DG yn gweld ein phlaid fel bygythiad, gan ddisgrifio’r newid yn agwedd San Steffan fel prawf fod Plaid Cymru yn llwyddo i sefyll dros Gymru.

Dywedodd Ms Saville Roberts, ar ol mwy na degawd yn San Steffan, ei bod wedi gweld sut y mae un llywodraeth ar ol y llall wedi “rhoi Cymru mewn bocs”. Fodd bynnag, ei dadl yw fod y ddeinameg wleidyddol wedi newid dros y flwyddyn a aeth heibio

Tynnodd sylw at ymosodiadau Lu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, a labelodd Plaid Cymru fel ‘arwahanwyr’ fel tystiolaeth fod Llafur yn cydnabod dylanwad cynyddol y Blaid

Tynnodd A.S. Plaid Cymru sylw at ei datganiad fel yr wrthblaid Gymreig swyddogol yn San Steffan yn dilyn etholiad cyffredinol 2024, symudiad a ddisgrifiodd fel un “beiddgar, digywilydd o bosib – ond fod digwyddiadau wedi profi ein bod yn iawn.” Yn 2025, nododd mai’r ASau Cymreig newydd-etholedig mwyaf gweithgar oedd Ann Davies a Llinos Medi, “o bell ffordd”.

Amlinellodd Ms Saville Roberts ei hawydd am i lywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru fod yn un sydd a’r meddylfryd mwyaf rhyngwladol yn ein hanes

Sylwodd yn ei haraith fod diplomyddion o’r Undeb Ewropeaidd, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl ac Iwerddon wedi mynychu’r Gynhadledd, sy’n adlewyrchu’r diddordeb cynyddol ledled y byd yng Nghymru. Tynnodd Ms Saville Roberts sylw at ymweliad diweddar gan ddirprwyaeth a’r Ynys Las, ac ail-adroddodd fel mae ei phlaid yn amddiffyn cyfraith ryngwladol fel “y warchodaeth sy’n sefyll rhwng ynreolaeth a gorfodaeth gan wleidyddion sy’n cofleidio dim ond grym.

Dywedodd mai dim ond Plaid Cymru all atal gwleidyddiaeth Trumpaidd o ‘fwlio a brawychu’ rhag magu gwreiddiau yng Nghymru, ac anogodd aelodau’r blaid i ymgyrchu’n ddygn er mwyn gofalu mai Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf ym mis Mai, er mwyn orofi fod “Cymru yn gwrthod ildio i fwlis”.

Wrth siarad yng Nghasnewydd, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Cefais yr anrhydedd o wasanaethu fel AS Plaid Cymru ers dros ddegawd. Dros y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gweld sut mae San Steffan yn rhoi Cymru mewn bocs, a sut mae ei llywodraethau yn synied am Blaid Cymru. Dros y flwyddyn a aeth heibio, mae rhyw symud wedi digwydd. Nid yw sefydliad San Steffan bellach yn gweld Plaid Cymru fel rhyw nodwedd fach rhanbarthol ddifyr, josgins o’r wlad sydd wedi glanio yn y ddinas fawr. Rydym yn fygythiad.

“Pan fydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn defnyddio’r un  hen ystrydebau treuliedig i ymosod ar Blaid Cymru fel ‘ymwahanwyr’, yr hyn ddyweda’i yw: Amdani! Rydan ni’n gwneud rhywbeth yn iawn “

“Rydym wedi ennill y safle hwn o fod yn fygythiad. Rydym wedi gweithio’n galed i fod yn gacynen sy’n poeni’r ci ffyrnig, byr ei dymer . Wedi etholiad 2024, mi wnaethom ddatgan mai ni yw’r wrthblaid Gymreig swyddogol yn San Steffan.

“Roedd hynny’n feiddgar, yn ddigywilydd o bosib, ond mae digwyddiadau wedi profi ein bod yn gywir 

“Yn 2025, yr ASau newydd-etholedig mwyaf gweithgar oedd Ann Davies a Llinos Medi o bell, bell ffordd.

“Ni sydd wedi gosod yr agenda. Ni sydd wedi siarad yn glir. Mae pobl wedi sylwi. Mae’r byd wedi sylwi

“Mae gan ddiplomyddion rhyngwladol fwy o ddiddordeb nac erioed yng Nghymru

“Bu cynrychiolwyr o lysgenadaethau’r Undeb Ewropeaidd, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl ac Iwerddon yn ein cynhadledd yma y peneyrhnos hwn.

“Yn fwy nac erioed o’r blaen, mae ar y byd eisiau deall beth sy’n digwydd yng Nghymru. Fel ASau Plaid Cymru, nid San Steffan yw ein cynefin naturiol .

“Dywedodd AS yr SNP, Winnie Ewing, unwaith: “Dydyn ni ddim yn San Steffan i setlo i lawr, ond i setlo’r fsrgen.” Mae hynny’n un mor wir amdanom ni.

“Ond un o fanteision bod yn San Steffan yw agosrwydd, rhwydweithio, cysylltiadau. Gallwch fachu clustiau pobl pan na fedrant ddianc rhagoch.

“Mae ein tim yn San Steffan – Dan arweiniad Ben Lake, ein llefarydd Materion Rhyngwladol – yn gwneud yn siwr fod y sawl yr ydyn yn cwrdd a hwy yn gwybod ein henw ac enw ein cenedl. Eu bod yn gwybod dros beth mae Plaid Cymru yn sefyll a’r hyn y gall Cymru wneud i’r byd.

“Pan fyddwn yn cwrdd a cgynrychiolwyr rhyngwladol yn Llundain, rydym yn dweud wrthynt yn glir: Llywodraeth Cymru dan Blaid Cymru fydd yr un a’r feddylfryd fwyaf rhyngwladol yn ein hanes 

“Llywodraeth sy’n ffurfio perthynas gyda phwrpas. Llywodraeth sy’n deall mai ennill dylanwad ydych chi’n wneud . Llywodraeth fydd yn gweithio gydag eraill i ddad-wneud melltith Brexit. Llywodraeth fydd yn codi llais pan fydd egwyddor yn y fantol heb orfod aros am ganiatad gan Brif Weinidog y DG.”

Aeth yn ei blaen:

“Rhaid i Gymru lefaru’n glir a hyderus. Allwn ni ddim aros am ganiatad San Steffan i amddiffyn ein hegwyddirion.

“Mae bygythiad gwleidyddiaeth grym direswm ar stepen ein drws, gwleidyddiaeth bwlio a chodi ofn, lle mae trechaf treisied, gwannaf gwichied yw hi, a rheol cyfraith yn cael ei gwasgu dad  draed am yr union reswm mai dyna’n aml yw’r unig beth sy’n gwarchod y gwan a’r bregus rhag y sawl fyddai’n elwa o’u gormesu.

“Bu Nigel Farage yn clodfori Donald Trump yn groch ers blynyddoedd.

Cyn hynny, ddisgrifiodd Vladimir Putin fel y gwleidydd yr oedd yn ei edmygu fwyaf

“Mae Nigel Farage eisiau dynwared dull Trump o weithio, o ledaenu camwybodaeth am bolisi ‘Cenedl Noddfa’ i ymosod ar brifysgolion Cymru.

“Nid yw’n deall dim am ein cymunedau.

“Ym mis Mai, dim ond Plaid Cymru all drechu gwleidyddiaeth bwlio a brawychu. Allwn ni ddim gadael I gasineb fwrw gwreiddiau yma. Y ddau air ‘cenedl’ a ‘noddfa’: geiriau dyngarol ydyn nhw. Rydym ni’n falch fod Cymru yn Genedl Noddfa.

“Fe allwn atal Reform, ac mae’n rhaid i ni. Oherwydd pwy ydyn ni a’r hyn mae Cymru, ein cymunedau a’n gwerthoedd yn olygu i ni. Mae hyn yn mynd at wraidd ein bod.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.