13 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Farming MENTER MOCH CYMRU YN LANSIO FIDEOS HYFFORDDI BYR

MENTER MOCH CYMRU YN LANSIO FIDEOS HYFFORDDI BYR

0
433
Capture for PR
Capture for PR

Mae Menter Moch Cymru yn lansio cyfres o fideos hyfforddi byr ar gyfer ffermwyr moch yng Nghymru.

Dros y misoedd nesaf, bydd cyfres o fideos ymarferol byr ar gael ar wefan Menter Moch Cymru (www.mentermochcymru.co.uk) ac ar Facebook.

Bydd y fideos yn trafod pob agwedd ar ffermio moch ac yn cael eu cyflwyno gan wahanol arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y gyfres yn dechrau’r mis hwn gyda fideo ar y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â ffermio moch gyda’r arbenigwr moch, Bob Stevenson.

Bydd y fideos misol sydd i ddod yn canolbwyntio ar ddulliau adnabod, bioddiogelwch, iechyd, magu dan do ac yn yr awyr agored, bridio, geni perchyll, bwydo, trin moch a phrofi perfformiad.

Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, “Gan na allwn gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, mae’r fideos ymarferol yma wedi cael eu paratoi i roi ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth a chyngor i ffermwyr ar wahanol bynciau. 

“Bydd y fideos byr yn cael eu lanlwytho’n rheolaidd tan fis Awst ar wefan a thudalen Facebook Menter Moch Cymru fel y gall ffermwyr moch eu gwylio yn eu hamser eu hunain. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Menter Moch Cymru a’r adran Hwb Adnoddau ar y wefan.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.