15.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Dyletswydd moesol i hyrwyddo’r iaith Cymraeg meddai Prif Gwnstabl.

Dyletswydd moesol i hyrwyddo’r iaith Cymraeg meddai Prif Gwnstabl.

0
429
0 KLP MGA 070519mgaPolice 11JPG
0 KLP MGA 070519mgaPolice 11JPG

Mae Prif Gwnstabl Richard Lewis wedi tanlinellu dyletswydd moesol gwasanaethau cyhoeddus i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn ei flog wythnosol ar gyfer Ddydd Gŵyl Dewi.

Fe ymunodd Mr. Lewis Heddlu Cleveland o Heddlu Dyfed-Powys in 2019 a fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf mae’n ysgrifennu ar ei berspectif newydd wedi iddo fyw a gweithio yn Lloegr am ddwy flynedd bellach. 

Mae’n galw am fwy o waith i hyrwyddo’r iaith ac nid i ddibynnu ar y hanfodaeth stadudol. Yn wir, mae’n awgrymu taw nid rhywbeth ychwanegol yw cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg; dylai fod yn rhan anatod yn hyrtach na rhywbeth ychwanegol y dylai siaradwyr Cymreag fod yn ddiolchgar amdano. 

Mae Mr. Lewis yn dweud:

“Gan fy mod wedi gweithio y tu hwnt i Glawdd Offa ers dwy flynedd bellach, rwyf wedi dod i asesu dyletswyddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch yr iaith Gymraeg trwy berspectif newydd. Mae’r pellter llythrennol a throsiadol o Gymru wedi helpu i mi weld y cyd-destun ehangach; sef bod angen gwneud llawer mwy i hybu defnydd o’r iaith gan ein gwasanaethau cyhoeddus”

“Mae’r angen statudol i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn holl bwysig – ond yn fy marn i, mae’r angen moesol gwaelodol/sylfaenol hyd yn oed yn bwysicach. Mater cymharol hawdd yw mesur yr amser i ateb galwad trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mater mwy o lawer yw bod teulu yn cael derbyn newyddion drwg er enghraifft, trwy gyfrwng eu mamiaith. Neu bod gan unigolyn yr hawl i fynegu safbwynt neu gŵyn mewn datganiad yn Gymraeg.”

“Nod Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r polisi yn un teilwng ond rhaid sylweddoli nad ar waith papur y cyflawnir y bwriad hwnnw. Rhaid i sefydliadau dderbyn yr her i hyrwyddo’r iaith – nid oherwydd bod deddfwriaeth yn eu gorfodi – ond oherwydd bod dyletswydd foesol arnom i wneud mwy.”

Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth Cymraeg mae’n rhaid sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyflogi yn y lle cyntaf, bod gwersi Cymraeg ar gael yn hawdd i ddysgwyr mewnol, bod gwersi gloywi iaith ar gael, ac yn holl bwysig, dealltwriaeth ymhlith staff o anghenion ieithyddol y gymuned, a’r effaith bositif a ddaw o siarad yn Gymraeg gyda’r sawl sy’n dymuno gwneud hynny.

Fydd y blog ar gael yn ddwyieithog fan yma:


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.