18.3 C
Llanelli
Saturday, August 1, 2026
Home Business Arian ychwanegol ar gyfer busnesau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth.

Arian ychwanegol ar gyfer busnesau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth.

0
460
BUSINESS SUPPORT E
BUSINESS SUPPORT E

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden sydd wedi teimlo effeithiau cyfyngiadau’r coronafeirws.

Cadarnhawyd hefyd, gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad nesaf ar 12 Mawrth, y gallai gwerth £150 miliwn o grantiau gael eu neilltuo i fusnesau, gan gynnwys micro-fusnesau, trwy gynllun Ardrethi Annomestig (NDR) Llywodraeth Cymru os caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu estyn.

Yn y rownd ddiweddaraf, bydd £30m o gymorth y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu er lles busnesau bach, canolig a mawr yn y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ac i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig.

Mae’r arian yn cael ei dargedu at fusnesau sy’n cyflogi deg neu fwy o staff fel cydnabyddiaeth o’r costau gweithredu cymharol uchel y mae’r busnesau hyn yn gorfod eu hysgwyddo.

Ond os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn yr adolygiad ar 12 Mawrth, byddai’r £150m fyddai’n cael ei neilltuo yn golygu y byddai pob busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol sy’n talu ardrethi annomestig yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5k, waeth faint o weithwyr a gyflogir ganddynt.

O heddiw ymlaen, bydd busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden yn cael mynd ar y gwiriwr cymhwysedd a’r gyfrifiannell sydd ar wefan Busnes Cymru i’w helpu i weithio allan pa gymorth y gallent fod yn gymwys iddo yn y rownd ddiweddaraf hon a deall y manylion sydd eu hangen i wneud cais.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod o anodd i bawb ac rydym yn ymwybodol o’r heriau sylweddol sy’n wynebu ein sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden.

“Ffocws y rownd ariannu ddiweddaraf hon gyda’i £30m o arian ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yw’r busnesau bach, canolig a mawr yn y sector a’r nod penodol o ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl.

“Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau gan gynnwys i’r sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth drwy gydol y pandemig fu’r un fwyaf hael o holl wledydd y DU, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi dros £1.9bn yn uniongyrchol yng nghyfrifon banc ein busnesau.

“Gyda chyfyngiadau’n debygol o barhau am ychydig amser eto rydym wrthi’n adolygu ein hopsiynau ar gyfer darparu cymorth pellach. Mae’n dda gen i gadarnhau nawr y byddwn yn neilltuo £150m o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn adolygiad nesa’r coronafeirws ar 12 Mawrth, gan gynnwys i ficro-fusnesau.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid; “Mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a’r bobl y mae’n eu cyflogi.

“Mae’r gronfa newydd hon, a’r arian ychwanegol y byddwn yn ei neilltuo pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu hestyn, yn ymateb i gam diweddaraf y pandemig ac yn arwydd o’n hymrwymiad di-dor i’r sector, gan eu helpu i oroesi’r cyfnod anoddaf hwn nes eu bod mewn sefyllfa i ailagor eu drysau’n ddiogel eto.”

Mawr oedd croeso Kate Nicholls, Prif Weithredwr UKHospitality (UKH) i becyn grantiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i’r diwydiant: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando unwaith eto ar ein cynigion adeiladol ar gyfer mwy o gymorth a bydd yr arian newydd yn gwneud cyfraniad amlwg at barhau i arbed swyddi lleol a busnesau lleol tan 31 Mawrth mewn cymunedau ledled Cymru tra phery’r cyfnod clo.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.