17.7 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Animals Monitro’r dreigiau: o Dŷ Ddewi I sir Fynwy

Monitro’r dreigiau: o Dŷ Ddewi I sir Fynwy

0
465
Common toad
Common toad

Os ydych chi’n awyddus i fod allan yn y gefnwlad a chwrdd â rhai o ‘Ddreigiau’ Cymru, gall prosiect Newydd ARC, Monitro’r dreigiau fod i chi! Diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mae’r elusen bywyd gwyllt cenedlaethol yn gobeithio monitro statws cadwraethol poblogaethau amffibiaid ac ymlusgiaid ar draws de Cymru am y tro cyntaf, gyda help gwirfoddolwyr.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod poblogaethau herpetofauna yn dirywio ledled y byd, gyda cholledion a darnio cynefinoedd yn yrwyr allweddol. Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru yn wynebi’r un bygythion, ond mae’n anodd iawn asesu oherwydd diffyg data o fonitro hir dymor– dyma y mae’r prosiect yma yn anelu newid! Fe fydd y project yn cynnwys yr holl rywogaethau o herpetofauna yn Ne Cymru, gyda ffocws ar dair rhywogaeth flaenoriaeth, y wiber, llyfant a’r fadfall y dŵr cribog.

Elfen hanfodol o’r prosiect ydy hyfforddiant a mentora gwyddonwyr dinesydd presennol a newydd mewn technegau arolygu herpetofauna a hwyluso defnydd eu sgiliau Newydd, gan gynnwys defnydd dechnoleg recordio arloesol (casglu data’n symudol).

“Mae ARC wedi adnabod amrywiaeth eang o safleoedd arolwg targed ym mhob awdurdod lleol yn Ne Cymru, o barciau cenedlaethol i ardaloedd ol-ddiwidiannol– rydym ond angen gwirfoddolir i’w ymgymryd! Mae ARC yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod holl weithgareddau’r prosiect yn cydymffurfio a rheolau COVID-19 lleol i gadw pawb yn ddiogel. Fe fydd wirfoddolwyr yn cael eu paru gyda safleoedd monitro yn ein rhwydwaith peilot a’u chefnogi gyda’r offer a sgiliau angenrheidiol gan ein swyddogion maes, felly dyma ffordd wych i bobl canfod fwy am eu hardal leol a datblygu eu sgiliau ecolegol.

‘Fydd safleoedd monitro sy’n cael ei sefydlu yn ystod y prosiect yma yn cael eu defnyddio am flynyddoedd, yn darparu data gwerthfawr i ymchwilwyr, Cyrff Anllywodraethol, Cyrff Statudol Cadwraeth Natur, yn cyfrannu at ddyfodol gwell i amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru.” Dweddod swyddog prosiect ARC George Mee.

Cysylltwch â george.mee@arc-trust.org am wybodaeth am sut i gymryd rhan!


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.