18.8 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Plaid Cymru yn galw am bwll nofio maint Olympaidd i ogledd Cymru

Plaid Cymru yn galw am bwll nofio maint Olympaidd i ogledd Cymru

0
434
heledd fychan v2
heledd fychan v2

Mae chwe aelod o dîm Nofio Cymru wedi ennill lle yn y Gemau Olympaidd eleni – record newydd 

Fe allai pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru greu mwy o gyfleoedd i nofwyr yn yr ardal, mae Plaid Cymru yn dweud.

Bydd seremoni agoriadol gemau Olympaidd Tokyo yn cael ei chynnal heddiw, gan ddechrau cystadleuaeth sy’n cynnwys record o chwe nofiwr o Gymru.

Dathlodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS y llwyddiant, gan nodi bod gwylio athletwyr o Gymru yn “dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru” fel y dangoswyd gan Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn gynharach yr haf hwn.

Nododd Ms Fychan fod llwyddiant y gynrychiolaeth nofio o Gymru yn codi cwestiynau ynghylch y cyfleusterau sydd ar gael yng ngogledd Cymru, gan nodi bod llawer o’r pyllau maint Olympaidd agosaf dros y ffin.

Ychwanegodd Ms Fychan y byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn “osgoi sefyllfa o’r fath” a bod “nofwyr yn y gogledd yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial”.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS, 

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn gwylio llawer o athletwr o Gymru mewn amrywiaeth o chwaraeon yn cystadlu yn y gemau Olympaidd, gan gynnwys chwe nofiwr o Gymru, sy’n torri record.

“Ni ellir gwadu bod gwylio athletwyr sy’n ein cynrychioli ar lwyfan chwaraeon y byd yn denu cymaint ohonom i mewn, nid dim ond y dorf arferol, ac yn dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru. Mae’n rhywbeth rydyn ni eisoes wedi profi cymaint ohono yn ystod ymgyrch Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA eleni. 

“Ond mae’r llwyddiant hwn yn erfyn ar y cwestiwn – faint o nofwyr talentog o ogledd Cymru allai fod wedi bod yn cymryd rhan yn y gemau hyn pe bai pwll maint Olympaidd yn y gogledd iddyn nhw hyfforddi ynddo? A allem fod yn edrych ar saith, wyth, naw neu fwy o nofwyr o Gymru ar y tîm?

“Fel y mae hi byddai’n rhaid i nofwyr yn y gogledd deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i hyfforddi, rhywbeth sy’n siŵr o’i gwneud hi’n anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i athletwr ifanc ddilyn camp maen nhw’n rhagori ynddynt.

“Byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn osgoi sefyllfa o’r fath – mae nofwyr yn y gogledd yn haeddu mynediad i gyfleusterau hyfforddi, ac yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.