16.7 C
Llanelli
Wednesday, September 23, 2026
Home Events MAE GOLDIES YN ÔL!

MAE GOLDIES YN ÔL!

0
438
Goldies 1
Goldies 1

16 mis ar ôl i gyfnod clo Covid orfodi cau holl sesiynau CANU A GWENU yn ystod y dydd, bydd Elusen Golden-Oldies yn ailgyflwyno sesiynau ar draws Cymru a Lloegr yn yr wythnosau i ddod.

Wrth i’r wlad ddod allan o’r cyfnodau clo, mae cynlluniau ar y gweill i ailgyflwyno sesiynau Goldies a chaiff y grwpiau cyntaf yn Lloegr a Chymru eu rhestru islaw … 

Cafodd yr elusen, a gaiff ei galw fel arfer yn ‘Goldies’ ei sefydlu gan y cerddor Grenville Jones yn 2007. Am flynyddoedd lawer bu Grenville, sy’n byw yng Nghaerfaddon, yn un o arweinwyr corau amlycaf Prydain ac wedi dysgu drosto’i hun am effeithiau cymdeithasol cadarnhaol canu mewn côr neu grŵp cerddorol.

“Roeddwn eisiau codi yn yr awyrgylch o hwyl a chyfeillgarwch a dod â hynny i bobl hŷn ac ynysig drwy sesiynau canu yn ystod y dydd gyda chaneuon poblogaidd y 60au ac ymlaen. 

Arweiniodd Grenville ei hunan y pedair sesiwn gyntaf yng Nghaerfaddon a Bryste a’r cylch yn 2008 ac mae bob amser yn awyddus i danlinellu NAD canu corawl yw’r Elusen. 

“Mae Goldies yn rhoi rhywbeth i bobl hŷn ac ynysig edrych ymlaen eto, cyfle i fynd allan, gwneud ffrindiau newydd a chyd-ganu’r caneuon poblogaidd hynny o’r gorffennol,” meddai. 

O ddechrau bach, a gyda Syr Cliff Richard fel Llywydd, mae gwaith yr Elusen wedi tyfu ar draws Lloegr a Chymru (Goldies Cymru) a chyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 roedd dros 200 o sesiynau cyd-ganu hwyliog Goldies yn ystod y dydd mewn llyfrgelloedd, ystafelloedd cymunedol a neuaddau eglwys, oedd yn cael eu harwain gan 74 o arweinwyr sesiwn lleol ymroddedig. 

Y rhai oedd yn mynychu’r sesiynau oedd pobl hŷn, llawer ohonynt yn byw mewn tai cymunedol, oedolion gydag anawsterau dysgu a phobl yn byw gyda dementia – mae croeso i bawb mewn sesiwn Goldies. 

Dros y blynyddoedd cafodd yr Elusen lawer iawn o gefnogaeth gan lawer o ymddiriedolaethau dyngarol, awdurdodau lleol, sefydliadau a’r Loteri Genedlaethol yn Lloegr a Chymru. Cafwyd hefyd gryn sylw i Goldies yn y cyfryngau dros y blynyddoedd a, drwy 2020, roedd opera sebon boblogaidd Emmerdale ar ITV yn cynnwys sesiwn Goldies yn ystod ei egwyl hysbysebu, a oedd yn bosibl oherwydd cefnogaeth Cronfa Gymunedol Loteri People’s Postcode.

Mae astudiaethau academaidd wedi cadarnhau manteision Elusen Golden-Oldies i bobl unig. Mae wedi gweithio gydag ysgolion cynradd mewn blynyddoedd diweddar gyda chefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac yn 2018 enillodd Gategori Addysg Gwobrau’r Loteri Genedlaethol – prosiect yn seiliedig ar gerddoriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.

 Pan y’i gorfodwyd gan Covid i gau pob sesiwn, edrychodd Goldies ar y rhyngrwyd, Facebook ac YouTube i fynd â’i sesiynau hwyl i gartrefi pobl. Mae’r arweinwyr poblogaidd Rachel Parry a Cheryl Davies, y ddwy ohonynt yn byw yng Nghymru, yn arwain y sesiynau dwywaith yr wythnos dan faner www.goldieslive.com , gyda phobl yn ymuno o’u cartrefi ar draws Prydain. Bydd y rhan yn parhau hyd y Gwanwyn nesaf.

 Mae cynlluniau’r elusen ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ail Siop Elusen yng Nghaerdydd a chyflwyno gwaith yr elusen gyda phobl hŷn yn yr Alban. Nid yw Elusen Golden-Oldies yn un am aros yn ei hunfan. Mae bob amser yn dymuno recriwtio arweinwyr sesiwn newydd ar draws Prydain a chlywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ynysig. Y wefan yw’r man cychwyn gyda manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol.

 www.golden-oldies.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.