12.9 C
Llanelli
Tuesday, May 19, 2026
Home Business Arbenigwyr band eang gwledig yn buddsoddi rhagor yng Nghymru er mwyn cysylltu...

Arbenigwyr band eang gwledig yn buddsoddi rhagor yng Nghymru er mwyn cysylltu cymunedau anodd eu cyrraedd.

0
648
VON 001
VON 001

Mae cwmni, gyda chanolfan yng Nghymru, sy’n arbenigo mewn darparu gwasanaeth band eang cyflym i ardaloedd gwledig yn cynyddu ei dîm o staff er mwyn ehangu ei wasanaeth i ardaloedd anodd eu cyrraedd.  

Mae Voneus, sydd wedi symud i eiddo mwy yng Nghaerfyrddin, eisoes wedi sefydlu tîm cyswllt â’r gymuned ac yn chwilio am staff i lenwi swyddi eraill, yn cynnwys staff gwerthu a pheirianwyr. 

Mae Voneus yn gwmni a gymeradwywyd gan y llywodraeth ar gyfer darparu band eang cyflym iawn (superfast) a band eang gwibgyswllt (ultrafast) i ardaloedd anodd eu cyrraedd. Gwnânt hynny mewn 22 o siroedd yn y Deyrnas Unedig. Yn gynharach eleni, fe wnaethant brynu cwmni Dyfed IT oedd yn gweithredu o Geredigion, gan barhau i gyflogi pob un o’u staff.  

Hyd yma, penodwyd tri aelod o staff i ffurfio tîm cyswllt â’r gymuned. Yr arweinydd yw Naomi Marshall, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Bu hi’n gweithio yn y diwydiant am 15 mlynedd.  Mae dau gynorthwyydd, Susan Pitcher ac Adam Stockwell, hefyd yn aelodau o’r tîm.  

Gweithiodd y tri ohonynt yn yr ardal am o leiaf 20 mlynedd, fel bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o anghenion band eang siroedd canolbarth a gorllewin Cymru. 

Mae Voneus yn gosod rhwydweithiau sy’n galluogi cyflymder o 100Mbps i 1Gbps ym mhob rhan o Sir Benfro, Sir Gâr, Ceredigion a Phowys.  

Meddai Zoe Day, pennaeth cyswllt â’r gymuned Voneus: “Mae gwaith y tîm cyswllt â’r gymuned yn allweddol inni. 

“Gwyddom mor bwysig yw bod yn rhan o’r cymunedau a wasanaethwn. Nid ydym eisiau bod yn fusnes pell i ffwrdd ac anodd ein cyrraedd sy’n gosod systemau ac yna’n anghofio am y bobl sy’n eu defnyddio.  

“Bydd ein tîm cyswllt â’r gymuned yn gweithio’n agos gyda thrigolion a busnesau lleol i ddeall eu anghenion a’u dymuniadau yn ogystal ag adeiladu perthynas dda â chyrff allweddol fel cynghorau bro a thref, capeli ac eglwysi.”  

Mae swyddfeydd newydd Voneus yn Swît Swyddfeydd MacGregor ar Lôn Jolly Tar yng nghanol Caerfyrddin – lle sy’n ddigon mawr i ganiatáu i Voneus dyfu ac ehangu ymhellach.  

Meddai Naomi Marshall, a fu gynt yn gweithio i BT ac EE: “Yn Voneus, rydym yn awyddus iawn i gael gwared â chyflymder band eang gwael mewn ardaloedd gwledig a gweithredu er lles ehangach y gymuned gyfan.  

Ychwanegodd: “Mae’n wych cael y cyfle i wneud hynny yn yr ardal lle dwi’n byw a gweithio.”  

Mae Voneus yn frwd o blaid cysylltu cymunedau anodd eu cyrraedd, sy’n aml yn teimlo iddynt gael eu gadael ar ôl, fel eu bod yn gallu mwynhau’r un cyflymder band eang â thrigolion canol y dinasoedd mawr.  

Ychwanegodd Naomi : “Mewn ardaloedd anghysbell yn aml iawn mae pobl yn methu gwneud tasgau syml ar lein fel uwchlwytho ffeiliau wrth weithio o gartref, neu wylio’r sioe ddiweddaraf trwy wasanaeth ffrydio am fod y cyflymder yn rhy araf.   

“Byddwn yn trawsnewid hynny, a dymunwn gyflogi rhagor o swyddogion cyswllt â’r gymuned, aelodau ychwanegol o’r tîm gwerthu, nifer dda o beirianwyr a staff gweinyddol i’n helpu i gyrraedd ein nod uchelgeisiol. 

“Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn un o’r swyddi hyn gyflwyno cais ar unwaith!” 

I wybod rhagor, cysylltwch â Voneus drwy ffonio 0800 007 3377 neu e-bostio broadband@voneus.com

Gallwch hefyd ymweld â’r wefan www.voneus.com   


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here