7.8 C
Llanelli
Sunday, February 1, 2026
Home Census Ymateb digidol i Gyfrifiad 2021 yn rhagori ar ddisgwyliadau

Ymateb digidol i Gyfrifiad 2021 yn rhagori ar ddisgwyliadau

0
430
census
census

Swyddfa Ystadegau Gwladol Logo

Ymatebodd 97% o gartrefi – ffigur anhygoel – ledled Cymru a Lloegr i Gyfrifiad 2021 i wneud yn siŵr eu bod yn cyfrif ar gyfer gwasanaethau lleol – a gwnaeth bron 90% ohonynt hyn ar lein.

Dengys y canfyddiadau cychwynnol a gyhoeddir heddiw fod yr ymateb ar-lein i’r cyfrifiad digidol yn gyntaf cyntaf wedi rhagori ar ddisgwyliadau; cafodd mwy na 22 miliwn o ymatebion eu cyflwyno drwy’r holiadur gwe.

Roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi gosod targed cyn y cyfrifiad o 75% o leiaf yn cwblhau’r holiadur ar lein. Fodd bynnag, roedd y ffigur yn uwch na hynny, wrth i 88.9% o gartrefi ymateb i’r cyfrifiad ar ddyfais ddigidol.

Ffôn symudol oedd y ffordd fwyaf cyffredin o gwblhau’r holiadur electronig; dewisodd 56.4% o gartrefi wneud hynny fel hyn. Defnyddiodd bron 35% gyfrifiadur bwrdd gwaith, a defnyddiodd 9% lechen.

Ar gyfartaledd, cymerodd 23 munud i gartref gwblhau’r holiadur ar-lein, a oedd yn unol â’n disgwyliadau.

“Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 wrth i fwy na 97% o gartrefi gwblhau eu cyfrifiad er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynrychioli ar gyfer gwasanaethau lleol fel lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai a gwasanaethau brys, ac roedd yn wych gweld y mwyafrif llethol yn defnyddio ein gwasanaethau digidol,” dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Cyfrifiad 2021.

“Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn hanfodol i’n helpu i ddeall effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau gwahanol. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am ein poblogaeth a’n hiechyd, bydd Cyfrifiad 2021 hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau cymdeithasol ac economaidd i’n bywydau.

“Tra bo data o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi bod yn hanfodol i’n helpu i ddeall marwolaethau ar gyfer gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, bydd data newydd sbon o Gyfrifiad 2021 yn ein galluogi i ddiweddaru ein gwaith dadansoddi ac, ochr yn ochr â ffynonellau data gweinyddol newydd, cawn y data gorau erioed ar ein poblogaeth.”

Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yn Lloegr yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:

  • Tower Hamlets        97.3%
  • Newham       97.0%
  • Dinas Llundain         96.7%
  • Slough          96.7%
  • Hounslow      96.6%

Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yng Nghymru yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:

  • Caerdydd           95.2%
  • Casnewydd        94.3%
  • Bro Morgannwg  94.2%
  • Rhondda Cynon Taf 94.0%
  • Sir y Fflint       93.5%

Mae’r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021 yn cau am hanner nos yfory (5 Hydref), felly os hoffai pobl ddweud eu dweud ar y data o’r cyfrifiad a gaiff eu cyhoeddi, dylent ymateb nawr.

Mae proses sicrhau ansawdd drylwyr yn cael ei chynnal bellach er mwyn sicrhau bod y canlyniadau gorau o’r cyfrifiad ar gael i bawb.

Yna rhyddheir mwy o ddata a gwaith dadansoddi fesul cam drwy gydol 2022 a 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad ar-lein 2021 a sut y gwnaeth SYG alluogi pobl i ymateb yn ddigidol neu ar bapur, darllenwch yr adroddiadau llawn yma.

Nodiadau i olygyddion

  • Y cyfrifiad yw’r ymarfer ystadegol mwyaf y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ei gynnal, gan gynhyrchu ystadegau sy’n llywio pob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac yn ategu polisi cymdeithasol ac economaidd. Mae’n darparu toreth o wybodaeth ar lefel ddaearyddol fach er mwyn llywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau lleol. Felly, mae’n hanfodol bod pawb yn cymryd rhan ac yn cael eu cyfrif a bod yr ystadegau sy’n cael eu cynhyrchu yn gywir ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.
  • Yn 2014, argymhellodd (117.8 KB, PDF) yr Ystadegydd Gwladol y dylai Cyfrifiad 2021 fod yn gyfrifiad ar-lein yn bennaf, ac y dylid sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai na allant gwblhau’r cyfrifiad ar lein. Ystyriwyd hyn gennym wrth fynd ati i baratoi ac mae dwy erthygl a gyhoeddir heddiw yn disgrifio rhannau allweddol o’r gwaith hwnnw.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.