Amlinellu cynnig gofal plant Plaid Cymru mewn ymweliad â meithrinfa yn Sir Gaerfyrddin
Cafodd ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf, gyfle i drafod eu cynnig “trawsnewidiol” ar gyfer gofal plant yng Nghymru mewn ymweliad â Meithrinfa Cwtsh y Clôs yn Llanarthne yr wythnos hon (Dydd Mawrth, 21 Ebrill).
Mae’r blaid, sy’n arwain ras dynn gyda Reform UK yn y polau piniwn gyda phythefnos o’r ymgyrch ar ól, wedi addo darparu 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 blwydd oed erbyn diwedd tymor nesa’r Senedd pe bai nhw’n ffurfio llywodraeth ar ôl yr etholiad ar 7 Mai. Bydden nhw hefyd yn anrhydeddu’r cynnig presennol o 30 awr yr wythnos i rieni sydd mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.

O’i weithredu’n llawn, byddai hyn werth mwy na £30,000 mewn costau gofal plant yn ystod 4 blynedd cyntaf bywyd plentyn – y cynnig mwyaf hael gan unrhyw lywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Cefin Campbell, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin:
“Dyn ni’n gwybod faint mae costau gofal plant yn pwyso ar rieni newydd yng Nghymru – yn wir, mae’r gwasanaeth yn ddrytach yma nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
“Mewn cyfnod lle mae’r argyfwng costau byw yn gwasgu, mae goblygiadau i iechyd meddwl rhieni, lles plant a ffyniant economaidd o beidio cael gofal plant teg, o safon mewn ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin yn enfawr.”
Dywedodd Nerys Evans, sydd hefyd yn ymgeisydd i’r blaid yn yr etholaeth:
“Rwy’n falch bod Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i’r polisi hwn. Rydym yn gwybod bod buddsoddiad o’r fath yma yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wario arian cyhoeddus o ran rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, gan helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith.
“Mae costau byw yn bryder mawr i gynifer o deuluoedd, a thrwy fuddsoddi mewn gofal plant rydym hefyd yn mynd i’r afael â thlodi, ac yn hyrwyddo cyfleoedd economaidd ledled Sir Gaerfyrddin.”
Dywedodd Angharad, mam o Gaerfyrddin:
“Fel mam, dw i’n hapus iawn bod Plaid Cymru’n addo gofal plant am ddim i’n plant ifanc ni yma yng Nghymru.
“Bydd hyn yn sicrhau’r dechrau gorau posibl i’n plant ni: sicrhau bod dim gwahaniaethu; bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal; a bod dim annhegwch rhwng ardaloedd.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |

















