8.6 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Local News Neath Port Talbot News Rhentu Doeth Cymru yn galw landlord didrwydded i gyfrif

Rhentu Doeth Cymru yn galw landlord didrwydded i gyfrif

0
396
Rent Smart logo col
Rent Smart logo col

Mae landlord o Gymru a oedd wedi cael gwrthod trwydded gan Rhentu Doeth Cymru i gynnal gweithgareddau gosod a rheoli, wedi’i gael yn euog o reoli ei eiddo yn anghyfreithlon.

Parhaodd Derrick Morgan, o Crossways, Parc Newydd, Llansawel, i gyflwyno cytundebau tenantiaeth a chasglu rhent gan denantiaid oedd yn byw yn ei eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot, er iddo gael gwrthod trwydded gan Rhentu Doeth Cymru yn 2019.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob landlord ac asiant yng Nghymru sy’n gosod a rheoli eiddo rhent gael trwydded Rhentu Doeth Cymru. 

Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Mr Morgan yn euog i fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Fe’i cafwyd yn euog o ddau gyhuddiad arall o dan y Ddeddf gan gynnwys methu â chael ei drwyddedu i wneud gwaith gosod a rheoli eiddo. Cafodd ddirwy o £4,620 a gorchmynnwyd iddo dalu £2,500 mewn costau a gordal dioddefwr o £190.

Dechreuodd ymchwiliadau i bortffolio Mr Morgan ar ôl i Rhentu Doeth Cymru amau nad oedd yn bodloni’r gofyniad i benodi asiant trwyddedig i reoli ei eiddo, ar ôl i’w drwydded ei hun gael ei wrthod. Ni ddarparwyd gwybodaeth y gofynnwyd amdani am waith rheoli’r eiddo.

Fe wnaeth Mr Morgan benodi gwahanol asiantau i reoli ei eiddo ond parhaodd i gyflawni tasgau rheoli ei hun – yn groes i’r gofyniad i ddal trwydded i allu gwneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Thorne, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, awdurdod trwyddedu sengl Rhentu Doeth Cymru:  “Mae’r gofyniad i landlordiaid ac asiantau feddu ar drwydded Rhentu Doeth Cymru i ymgymryd â gweithgareddau gosod a rheoli eiddo yn y ddeddfwriaeth am reswm, a hynny er mwyn sicrhau bod unigolion sy’n cyflawni’r dyletswyddau hyn yn addas i wneud hynny ac wedi’u hyfforddi’n briodol yn eu hawliau a’u rhwymedigaethau.

“Yn anffodus, er iddo benodi asiantau trwyddedig i weithredu ar ei ran i reoli ei eiddo, parhaodd Mr Morgan i fod ynghlwm, gan gynnwys cysylltu’n uniongyrchol â thenantiaid, a nawr mae’n rhaid iddo dalu’r pris am y camgymeriad hwnnw.

“Mae hwn yn amser da i atgoffa’r holl denantiaid sy’n byw mewn llety rhent preifat sydd â landlord sy’n cyflawni dyletswyddau gosod neu reoli i wirio bod eu landlord wedi’i drwyddedu. Gellir cynnal gwiriadau yn gyflym ac yn ddienw drwy fynd i gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru yma: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/  

“Os nad yw eich landlord wedi’i drwyddedu, rhowch wybod i ni drwy ffonio 03000 133344 neu drwy’r wefan www.rhentudoeth.gov.cymru”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.