10.8 C
Llanelli
Sunday, May 10, 2026
Home Newyddion Lle Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG

Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG

0
322
EM MHSS scaled
EM MHSS scaled
Welsh Government News

Mae Aelodau’r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch fod y defnydd ehangach wedi’i gymeradwyo heddiw yn sgil y bleidlais. Nid yw Covid wedi diflannu – mae’r achosion yn parhau’n uchel ac mae angen inni barhau i gymryd camau i ddiogelu Cymru.  Un mesur ymhlith llawer yw pàs COVID y GIG, i helpu i gadw busnesau’n agored a helpu i reoli lledaeniad y feirws yr un pryd.

Nid yw’r penderfyniad i’w cyflwyno wedi’i wneud ar chwarae bach. Lleoliadau dan do yw’r rhai sydd dan sylw, lle mae nifer fawr o bobl yn crynhoi yn agos at ei gilydd am gyfnodau estynedig.

Ers 11 Hydref, mae’n ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif diweddar i fynd i glybiau nos a lleoliadau tebyg ac i ddigwyddiadau, ac mae’r drefn yn gweithio’n dda. Rydyn ni wedi cael sylwadau cadarnhaol gan amryw o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar.  Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sectorau sy’n gweithredu’r cynllun i’w cefnogi orau y gallwn.”

Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here