16.9 C
Llanelli
Wednesday, October 14, 2026
Home Newyddion Lle NID YW’R FEIRWS YN GWAHANIAETHU OND NID YW MYNEDIAD I FRECHLYNNAU WEDI...

NID YW’R FEIRWS YN GWAHANIAETHU OND NID YW MYNEDIAD I FRECHLYNNAU WEDI BOD YN GYFARTAL

0
428
HeleddFychanPontyTownCropped500x500
HeleddFychanPontyTownCropped500x500

“Mae pandemig byd-eang yn galw am ymateb byd-eang” – Heledd Fychan AS yn galw ar Gymru i arwain y ffordd

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS, wedi galw ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a’i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

Gan arwain ar ddadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 17 Tachwedd), bydd Ms Fychan yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang – ymrwymiad mae rhaid iddo yn ôl y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gyda gwledydd cyfoethog yn cynhyrchu mwy o frechlynnau nag y gallant eu defnyddio, dywedodd Ms Fychan ei fod yn anfoesol bod stoc yn mynd i wastraff, yn hytrach na chael ei ailddosbarthu i wledydd incwm isel.

Ym mis Medi, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 40,000 dos o frechlyn Astra Zeneca wedi’u dinistrio, tra bod ffigurau a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar yn dangos bod ffigurau’r DU gyfan yn 600,000.

Mae gwledydd ag incwm isel yn ysgwyddo’r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19,gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn cyfaddef yr wythnos diwethaf yn y Senedd mai “annhegwch brechu yw’r rhwystr mwyaf sy’n atal y byd rhag dod i’r amlwg o’r pandemig hwn.”

Adleisir y galwadau hyn gan Oxfam Cymru, sydd hefyd wedi galw o’r newydd ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan i godi eu bloc ar gwmnïau fferyllol i roi ryseitiau a thechnoleg brechlyn gyda gweddill y byd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS,

“Mae pandemig byd-eang yn galw am ymateb byd-eang. Mae gan Gymru ei rhan i’w chwarae wrth ddod â’r pandemig i ben a diogelu cymunedau ledled y byd. Yn fwy na hynny, mae ein cyfrifoldeb byd-eang wedi’i ysgrifennu i’r gyfraith.

“Dywedwyd droeon nad yw’r feirws yn gwahaniaethu ond ni ellir dweud yr un peth am fynediad i’r brechlynnau. Dosberthir brechlynnau yn seiliedig ar gyfoeth a chenedligrwydd, yn hytrach nag angen – nid yn unig y mae’r rhaniad hwn yn anghyfiawn, mae’n anfoesol.

“Dyna pam y dylai Cymru arwain y ffordd o ran rhannu ein harbenigedd a rhannu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel er mwyn dod â’r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

“Ar ddechrau’r pandemig y rhwystr mwyaf i’w oresgyn oedd gwyddoniaeth, ond yn awr y rhwystr yw anghydraddoldeb. Mae gan Gymru gyfrifoldeb i chwarae ei rhan wrth ddod â’r pandemig i ben. Wedi’r cyfan, dydyn ni ddim yn rhydd o’r feirws yma nes bod pawb yn rhydd.”

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Er bod mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i dderbyn eu pigiadau atgyfnerthu COVID (booster jabs) ni allai’r realiti i bobl mewn gwledydd sy’n datblygu – lle dim ond 2% o bobl sydd wedi cael eu brechu’n llawn – fod yn fwy gwahanol.

“Mae’n annerbyniol bod San Steffan yn parhau i rwystro ymdrechion i atal y patentau ar dechnolegau COVID fel bod cwmnïau fferyllol yn rhannu’r ryseitiau a’r dechnoleg brechlyn gyda gweddill y byd fel y gellir cynyddu cynhyrchiant brechlynnau ar frys.

“Rhaid i’r Prif Weinidog a’r Senedd anfon neges unedig, ddiamwys at y Prif Weinidog Boris Johnson; na fyddant yn sefyll yn segur tra bod bywydau’n cael eu peryglu’n ddiangen ledled y byd, ac, o ganlyniad, yma yng Nghymru. Does neb yn ddiogel rhag COVID nes ein bod ni i gyd yn ddiogel.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.