9.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

0
548
bbcc499cd165410791d74108d0cc98b6
bbcc499cd165410791d74108d0cc98b6
Welsh Government News

“Rydyn ni’n dysgu mwy am amrywiolyn omicron bob dydd.

“Mae hwn yn ffurf sy’n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd â’r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru. Gallai hyn arwain at nifer fawr o bobl angen triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein GIG o dan bwysau sylweddol.

“Ein gwarchodaeth orau o hyd yw brechu. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn dangos bod y dos atgyfnerthu yn hanfodol.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu i gynyddu nifer y bobl a fydd yn derbyn eu brechlyn atgyfnerthu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Mae pobl hŷn a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n cynyddu nifer y clinigau a’u horiau agor; rydyn ni wedi gofyn i’r holl staff sydd ar gael ymuno â thimau brechu i gefnogi’r ymdrech genedlaethol hon.

“Gwnewch yn siŵr bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth. Bydd yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i warchod eich hun rhag y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd hwn.

“Mae’r Cabinet yn monitro’r sefyllfa iechyd cyhoeddus hon sy’n newid yn gyflym yn ofalus iawn ac wedi symud i gylch adolygu wythnosol.

“Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn ac efallai y bydd angen i ni gymryd camau pellach i gadw Cymru’n ddiogel. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.