17.8 C
Llanelli
Monday, September 28, 2026
Home Newyddion Lle Gaeaf Llawn Lles – Gweithgareddau chwaraeon i helpu pobl ifanc i gadw’n...

Gaeaf Llawn Lles – Gweithgareddau chwaraeon i helpu pobl ifanc i gadw’n heini yn y gaeaf.

0
435
climbing centre scaled
climbing centre scaled
Welsh Government

Fel rhan o’r rhaglen Gaeaf Llawn Lles, rhoddwyd cyfle i blant ledled Cymru i roi tro ar weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor.

Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o becyn gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.

Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â sefydliadau i gyflwyno rhaglen o weithgareddau amrywiol, gyda’r nod o ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cydweithio â Chwaraeon Cymru ar lawer o gyfleoedd cyffrous yn ystod mis Chwefror a Mawrth, gan gynnwys; sesiwn SUP yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd; Syrffio gydag Ysgol Syrffio Porthcawl; Noson o Chwedlau a Gwylio’r Sêr ym Mharc Gwledig Bryngarw; sesiynau dringo o dan do yn Boulders, Caerdydd a Rock UK yn Merthyr ynghyd â nifer o ddigwyddiadau cyfeiriannu mewn parciau gyda Chlwb Cyfeiriannu De Cymru ar draws Canolbarth De Cymru.

I’r rheini sydd wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijng, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi trefnu gwersi sgïo ac eirafyrddio i fenywod yng Nghanolfan Sgïo Llandudno yn ystod mis Mawrth.

Dywedodd Swyddog Datblygu Gweithgareddau’r Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer y Canolbarth, Bethan Logan, a drefnodd sesiwn ddringo gynhwysol i bobl ag anableddau yng Nghanolfan Ddringo Llangors: “Mae’r gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnig ym Mhowys a Ceredigion yn cynnwys: byw yn y gwyllt, beicio mynydd, tramwyo a cherdded ar fryniau, dringo awyr agored, ogofa, beicio cynhwysol (gyda beiciau wedi’u haddasu), cyfeiriannu a chanŵio.

“Gyda phwyslais ar gynhwysiant a chwalu rhwystrau, er enghraifft drwy gynnwys hurio beic ac offer hanfodol, a chynnig cludiant o leoliadau canolog, gobeithio y bydd hyd yn oed rhagor o bobl yr ardal yn cael yr hyder i gael blas ar rhywbeth newydd. Y sesiynau blasu hyn yw’r cam cyntaf i lawer o bobl yn y Canolbarth i  ganfod llwybr mwy hirdymor i wneud gweithgareddau awyr agored!”

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Mae nifer fawr o weithgareddau amrywiol wedi cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru i bobl ifanc roi tro arnynt, a gobeithio bod pawb wedi cael digonedd o hwyl wrth wneud hynny. Unwaith eto, mae llawer o bartneriaid amrywiol wedi ymateb i’r pandemig, gan alluogi pobl i gadw’n heini mewn llawer o ffyrdd ac i edrych ar ôl eu hiechyd corfforol a iechyd meddwl drwy ymarfer corff.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Bydd y sector diwylliant a chwaraeon yn parhau i chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael eu gwynt atynt ar ôl y pandemig – ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein pobl ifanc yn dychwelyd i wneud y gweithgareddau  y maent yn eu mwynhau, ac yn troi eu llaw at weithgareddau newydd hefyd. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cydweithio i roi cyfleoedd a phrofiadau i blant a phobl ifanc sy’n cael effaith tymor hir a chadarnhaol ar iechyd a lles.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon, ac mae’n wych gweld plant yn cael blas ar wahanol weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor. Gobeithio y bydd y sesiynau yn ysbrydoli’r plant sy’n cymryd rhan i ddysgu mwy am y chwaraeon hyn, i gadw’n heini ac yn bwysicach na dim i gael hwyl.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.