17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Newyddion Lle Prifysgol Abertawe’n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr

Prifysgol Abertawe’n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr

0
539
Great Hall at Swansea University Bay Campus
Great Hall at Swansea University Bay Campus

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.

The Technician Commitment is a university and research institution initiative, led by a steering board of sector bodies, with support from the Science Council and the Technicians Make It Happen campaign.

Mae Prifysgol Abertawe’n ymuno â llofnodwyr megis Prifysgol Heriot-Watt a Phrifysgol Sussex i sicrhau amlygrwydd, cydnabyddiaeth, datblygiad a chynaliadwyedd gyrfa i dechnegwyr sy’n gweithio mewn addysg uwch ac ymchwil ar draws yr holl ddisgyblaethau. 

Meddai’r Athro Biagio Lucini, Dirprwy Is-ganghellor dros Ddiwylliant Ymchwil, ac Arweinydd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr yn y Brifysgol:

“Mae Prifysgol Abertawe’n falch o lofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr. Mae ein technegwyr a’n staff technegol yn hollbwysig i fywyd y brifysgol, gan fod eu gwaith caled yn ein galluogi i gyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf, addysgu rhagorol a phrofiad myfyrwyr cryf.

“Diolch i’w hymdrechion amhrisiadwy a’u gwybodaeth tra helaeth, rydym yn gallu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yn y gymuned leol a’r tu hwnt. Drwy’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, rydym yn rhoi ein cefnogaeth barhaus i’n cydweithwyr sy’n dechnegwyr.”

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y Brifysgol wedi llofnodi’r fenter bwysig hon.

“Mae’r gwaith hanfodol y mae ein technegwyr yn ei wneud ar draws y Brifysgol o fudd i ni’n uniongyrchol ac yn cefnogi ein partneriaethau; mae sgiliau ac ymroddiad ein technegwyr yn y Cyfadrannau a’r Gwasanaethau Proffesiynol yn galluogi Abertawe i gyflwyno rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu, ac rydym yn ymroddedig i sicrhau bod eu cyfraniadau at ein cyflawniadau’n cael eu cydnabod yn eang.”

Meddai Kelly Vere MBE, Rheolwr Ymgysylltu Addysg Uwch, y Cyngor Gwyddoniaeth ac Arweinydd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr:

“Mae’n bleser gennym groesawu Prifysgol Abertawe i gymuned yr Ymrwymiad i Dechnegwyr.

“Rydym mor falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud ar y cyd ar draws y sector, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu amlygrwydd, cydnabyddiaeth, datblygiad a chynaliadwyedd gyrfa ar gyfer y gymuned dechnegol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.