16.5 C
Llanelli
Thursday, September 10, 2026
Home hywel dda health board Cais i gau cangen Meddygfa Tycroes wedi’i dderbyn gan y bwrdd iechyd

Cais i gau cangen Meddygfa Tycroes wedi’i dderbyn gan y bwrdd iechyd

0
384
Screenshot 2022 05 09 at 11.50.42
Screenshot 2022 05 09 at 11.50.42

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn cais gan Feddygfa Stryd Margaret, Rhydaman, i gau eu cangen o feddygfa, Tycroes.

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y Gangen yn bennaf ar gyfer clinigau fflebotomi (profion gwaed).

Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Meddygfa Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.

Mae Meddygfa Stryd Marged, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â chleifion y ddwy feddygfa i gael dealltwriaeth o sut y byddai cau yn effeithio ar gleifion. Mae cyfnod ymgysylltu yn cychwyn ddydd Llun 9 Mai ac yn para tan ddydd Gwener 24 Mehefin. Gall cleifion roi adborth drwy’r ffyrdd canlynol:


• Cwblhau ffurflen adborth mewn meddygfeydd a fferyllfeydd

• Ffonio 0300 303 8322, opsiwn 4

• E-bostio hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

• Ysgrifennu at Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau GMS, Tîm Gofal Sylfaenol, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felinfoel, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8BE

• Ar-lein trwy www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk ac ap My Surgery

Petai Tycroes yn cau, mae’r manteision posibl i gleifion yn cynnwys mwy o apwyntiadau ar gael i’r holl gleifion ym Meddygfa Stryd Marged, gan na fyddai staff yn gweithio ar ddau safle, a gellid cynnig apwyntiadau cynharach a hwyrach o Stryd Marged.

Byddai cleifion yn dal i allu defnyddio Fferyllfa Tycroes a byddai’r Feddygfa yn parhau i anfon yr holl bresgripsiynau y gofynnwyd amdanynt i’r fferyllfa.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ac ymgysylltu â phoblogaethau lleol ynghylch y cynnig i adleoli gwasanaethau Gofal Sylfaenol o Feddygfa Tycroes i Stryd Marged a byddem yn felly yn hoffi gwahodd cleifion i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Feddygfa a’r Cyngor Iechyd Cymunedol drwy gydol y broses hon a byddwn yn hysbysu cleifion am ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu hwn.”

Dywedodd Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda, Dr Barbara Wilson: “Mae gwasanaethau meddygon teulu mor bwysig i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pan ddaw’r bwrdd iechyd i wneud ei benderfyniad am ddyfodol cangen Tycroes, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud.

“P’un a yw pobl yn cefnogi’r cynnig hwn neu’n ei wrthwynebu, bydd y CIC yn sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu clywed a’u deall gan y bwrdd iechyd.”

Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol lleol sy’n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Darganfyddwch fwy yma: Fferyllfa – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.