8.5 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home Newyddion Lle Ymchwil newydd yn datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw beichiog...

Ymchwil newydd yn datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw beichiog yng Nghymru fyddai’n cael brechiad Covid-19

0
426
s960 pregnant woman getting vaccinated min
s960 pregnant woman getting vaccinated min

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw feichiog o bosib yng Nghymru fyddai’n cael y brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd, er bod dwy o bob tair yn dweud y byddent yn cael y brechlyn.

Mae petruster o ran brechlyn yn ystyriaeth bwysig ymysg poblogaethau sy’n agored i niwed, megis menywod beichiog yn ystod y pandemig. Nod yr astudiaeth, a arweiniwyd gan y tîm Ganed yng Nghymru yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth ar y cyd ag Ysgol Feddygaeth Bryste ac Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd:

Amcangyfrif cyfraddau brechiadau Covid-19 ymysg menywod beichiog yng Nghymru a’u cysylltiad ag oedran, ethnigrwydd, ardal o amddifadedd, gan ddefnyddio cysylltedd data cofnodion iechyd electronig; ac,

archwilio barn menywod beichiog ar dderbyn brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd gan ddefnyddio data o arolwg recriwtio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, drwy fydwragedd, a phosteri mewn ysbytai.

Nododd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases, fenywod sy’n byw yng Nghymru a oedd yn feichiog rhwng 13 Ebrill a 31 Rhagfyr 2021, yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn gymwys am frechiad Covid.

Defnyddiodd y tîm Fanc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL), ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn casglu ac archwilio data gan feddygon, derbyniadau i’r ysbyty, iechyd plant cymunedol cenedlaethol, dangosyddion mamol a data brechiadau Covid yng Nghymru. Mae Banc Data SAIL yn storfa ddata anhysbys sy’n hwyluso cysylltu data. Drwy gysylltu data, mae’n galluogi ymchwilwyr i ddod â gwybodaeth ynghyd o adnoddau amrywiol i greu dealltwriaeth ddyfnach ac ansawdd gwybodaeth i’w defnyddio yn eu gwaith ymchwil.

Ar wahân, gwahoddwyd detholiad o fenywod beichiog yng Nghymru i gwblhau arolwg ar-lein yn gofyn am eu barn am gael brechiad Covid yn ystod beichiogrwydd, a oeddent eisoes wedi’i gael, neu’n bwriadu ei gael yn ystod beichiogrwydd a’r rhesymau dros eu penderfyniadau.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

Roedd 32.7% o fenywod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn Covid yn ystod beichiogrwydd;

Roedd 34.1% heb eu brechu drwy gydol y cyfnod dilynol;

Roedd 33.2% wedi cael y brechlyn ar ôl rhoi genedigaeth;

Roedd menywod iau (dan 30 oed) a’r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn llai tebygol o fod wedi cael y brechlyn; ac

Roedd grwpiau Asiaidd ac ethnig eraill ychydig yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd o’u cymharu â’r grŵp Gwyn.

Dyma brif ganfyddiadau’r arolwg gyda menywod beichiog:

Nododd 69% y byddent yn hapus i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;

Nododd 31% na fyddent yn cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;

Roedd y rhesymau dros gael y brechlyn yn ymwneud â diogelu eu hunain a’r baban, lefel risg ganfyddedig a derbyn digon o dystiolaeth a chyngor; ac

roedd y rhesymau dros wrthod cael y brechlyn yn cynnwys diffyg ymchwil am ganlyniadau hirdymor i’r baban, pryder am frechlynnau, cyngor/gwybodaeth anghyson ac yn dewis aros tan ar ôl y beichiogrwydd.

Meddai’r awdur arweiniol Dr Mohamed Mhereeg, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth: “Mae brechiadau’n diogelu yn erbyn clefydau difrifol. Wrth i’r pandemig barhau, mae brechiadau atgyfnerthu’n fwyfwy pwysig i ddiogelu yn erbyn Covid-19 difrifol, yn enwedig ar gyfer poblogaethau sy’n agored i niwed megis menywod beichiog.

“Mae’n hynod bwysig i ddatblygu strategaethau penodol i gynyddu cyfraddau derbyn brechlyn Covid-19 a lleihau petruster. Efallai bydd angen ymagwedd fwy penodol at frechiadau i gyrraedd grwpiau penodol megis pobl iau, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig cymysg a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae annog poblogaethau sy’n agored i newid, gan gynnwys menywod beichiog yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.”

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae ymchwil fel hon yn hollbwysig wrth wella ein dealltwriaeth o bobl a’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio ag opsiynau gofal iechyd sydd ar gael iddynt. Mae canfyddiadau astudiaeth yn helpu i lywio a chefnogi llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd i nodi bylchau mewn cyfranogiad, gan roi’r cyfle i ddod o hyd i atebion sy’n diwallu anghenion cynifer o bobl â phosib, yn enwedig y grwpiau mwyaf agored i niwed.”


Ariennir y Ganolfan Genedlaethol i Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ariannwyd yr ymchwil hon gan yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, menter a ariennir gan UKRI, NIHR a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyda chefnogaeth HDR UK.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.