16.4 C
Llanelli
Thursday, April 30, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Elusen y GIG yn ariannu diwrnod lles i rieni a gofalwyr

Elusen y GIG yn ariannu diwrnod lles i rieni a gofalwyr

0
847
St Brides parents and carers day

Diolch i roddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau wedi gallu mynychu diwrnod lles yng Ngwesty a Sba St Brides.

Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn fenter a ddarperir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n creu atgofion parhaol i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n peryglu bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.

Diolch i’r cyllid, ymwelodd y teuluoedd a’r gofalwyr â Gwesty St Brides ym mis Gorffennaf 2025 ar gyfer seibiant mawr ei angen a oedd yn cynnwys sesiwn baddon sain, cinio a defnyddio’r Sba.

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion hael i’r Gronfa Ddymuniadau a’n galluogi i drefnu’r profiad hwn ar gyfer y rhieni a’r gofalwyr rydyn ni’n eu cefnogi.

“Mae gofalu am blentyn sy’n ddifrifol wael yn brofiad emosiynol a chorfforol heriol, ac yn aml yn gadael rhieni heb fawr o amser i ganolbwyntio ar eu lles eu hunain. Mae llawer yn wynebu lefelau uchel o straen, gorbryder ac ynysu, a all effeithio ar eu gallu i ddarparu gofal.

“Roedd y diwrnod hwn yn brofiad arbennig i’r rhieni a’r gofalwyr rydyn ni’n eu cefnogi. Roedden nhw’n gallu ymlacio, gofalu amdanynt eu hunain, camu i ffwrdd o’u cyfrifoldebau dyddiol, cysylltu ag eraill sy’n deall eu taith, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo ymlacio ac iachâd emosiynol.”

Dywedodd rhiant a fynychodd ddiwrnod rhieni a gofalwyr: “Roedd yr holl brofiad yn anhygoel o’r dechrau i’r diwedd.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Dyma beth yw’r Gronfa Ddymuniadau, gan ddarparu mentrau a gwasanaethau lles ychwanegol i’r teulu cyfan.

“Rydym yn hynod falch o fod wedi ariannu diwrnod mor wych i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc gyda chefnogaeth y Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig. Edrychwn ymlaen at ariannu mwy o deithiau fel hyn yn y dyfodol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhrair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

I ddarganfod mwy am y Gronfa Ddymuniadau, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/the-wish-fund/

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here