9.1 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Driving Ceir Clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw ddydd Llun Gŵyl y Banc

Ceir Clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw ddydd Llun Gŵyl y Banc

0
476
Small Car show min
Small Car show min

Bydd y Castell – sydd â hanes yn dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd – yn arddangos rhai o’r ceir clasurol a’r hen gerbydau gorau ddydd Llun 1 Mai.

Bydd Castell Caeriw – sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – unwaith eto yn croesawu ceir, beiciau modur a cherbydau milwrol trawiadol yn y digwyddiad blynyddol hwn.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae’n rhaid bod pobl yn mwynhau gweld y cerbydau yma mewn cyflwr gwych o flaen y Castell sydd wedi’i warchod yn ofalus gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ers blynyddoedd lawer, oherwydd dyma un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd sydd gennym ni.”

Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys arddangosfeydd o feiciau oddi-ar-y-ffordd, arddangosiad o feiciau o Glwb Beiciau Modur Clasurol Arberth, a detholiad o geir clasurol. Bydd y ceir clasurol hyn yn cynnwys Ferrari Dino 246 GT, Morgan Roadster 3.7, Chevorolet Belair 1958, AC Cobra 1979 a Lotus 7, ymysg llawer o geir eraill.

Bydd rhagor o adloniant ar gael gyda ffair stondinau a reidiau gan Atyniadau Sir Benfro, a bydd y plant yn gallu dathlu’r Coroni drwy gymryd rhan mewn helfa drysor hwyliog ar thema Brenhinoedd a Breninesau am £2.

Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol y digwyddiad, gan gynnig rholiau cig moch a diodydd poeth yn y bore, a’r dewis arferol o ginio cartref a chacennau am weddill y dydd. Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i gael golwg ar Gastell mawreddog a Melin Heli Caeriw yn ystod eu hymweliad, er mwyn cael gwybod mwy am y digwyddiadau a’r cymeriadau lliwgar a gyfrannodd at hanes diddorol y safle hwn.

Caiff y digwyddiad Ceir Clasurol yng Nghastell Caeriw ei gynnal rhwng 10am a 3pm, a bydd y Castell ar agor rhwng 10am a 4:30pm. Codir tâl mynediad arferol. Oedolion £7, Plant £5, Gostyngiadau £6 a Thocyn Teulu (dau oedolyn a dau o blant) £20.

Cofiwch na fydd y digwyddiad yn mynd rhagddo os bydd y tywydd yn wael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw neu dilynwch dudalen Facebook Castell Caeriw (Carew Castle and Tidal Mill) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau.

I ddod o hyd i’r digwyddiadau eraill a fydd yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod Gŵyl y Banc eleni a drwy weddill y flwyddyn, ewch i www.www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.