9.9 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Newyddion Lle Y Ffijïaid yng Nghymru ar gyfer Rygbi a Recriwtio

Y Ffijïaid yng Nghymru ar gyfer Rygbi a Recriwtio

0
440
Metro works Pontypridd Porth May 23 123
Metro works Pontypridd Porth May 23 123

Transport For Wales News

Gyda llygaid y byd ar gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gaerdydd ddydd Iau hwn ar gyfer digwyddiad rygbi a recriwtio.

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n adeiladu Metro De Cymru ac mae wedi trefnu digwyddiad i rai o’r busnesau sy’n rhan o’i gadwyn gyflenwi ddod ynghyd i hyrwyddo eu swyddi gwag i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Anogir unrhyw gyn-filwyr, y rheini sydd ar fin gadael y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr gyda’r cadetiaid neu bartneriaid, i fynd i’r digwyddiad os ydynt yn chwilio am waith neu i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael.

Cynhelir y digwyddiad ym Mharc yr Arfau Caerdydd Ddydd Iau 21 Medi 2023 am 13.00.

Gyda bylchau sgiliau ar draws sawl sector, bydd 40 o fusnesau yn bresennol yn y digwyddiad recriwtio.  Ar ôl y digwyddiad, bydd gêm rygbi rhwng Tîm Rygbi Byddin Fiji a Thîm Rygbi Gwasanaethau Brys Cymru.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Yn TrC, rhoddwyd Gwobr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog i ni yn ddiweddar ac rydym yn cynnal y digwyddiad hwn fel y gall cyn-filwyr yn y rhanbarth hwn chwilio am swyddi neu ddod i wybod pa rolau sydd ar gael.

“Mae prosiectau seilwaith ar raddfa fawr yn digwydd ledled y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac mae llawer o gyfleoedd a bylchau sgiliau yn ein cadwyn gyflenwi.  Rydym yn annog pawb sy’n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog i ddod i’r digwyddiad hwn gan y gallai fod gennych y sgiliau rydyn ni’n chwilio amdanynt.

“Fel rhan o’r digwyddiad, rydym hefyd yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gymru gyda gêm rygbi yn ddiweddarach yn y prynhawn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.